“Gwell hwyr na hwyrach” yw ymateb y Ceidwadwyr Cymreig i’r cyhoeddiad fod ffermwyr llaeth am gael cefnogaeth yn sgil y coronafeirws.
Fe fydd y cymorth ar gael i ffermwyr sydd wedi colli mwy na 25% o’u hincwm misol yn Ebrill a Mai, a bydd modd iddyn nhw gael £10,000 er mwyn gwneud yn iawn am 70% o’r incwm maen nhw wedi’i golli.
Daw’r cyhoeddiad “ar ôl wythnosau o oedi a thawelwch byddarol”, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dw i a’m cydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn mynnu cael cefnogaeth i ffermwyr llaeth drwy gydol y pandemig a’r gwarchae ac, o’r diwedd, ar ôl wythnosau o oedi a thawelwch byddarol, mae’r Gweinidog Materion Gwledig wedi talu peth sylw,” meddai Andrew RT Davies.
“Gwell hwyr na hwyrach.
“Fodd bynnag, mae prinder manylion yn y cyhoeddiad heddiw; mae’n achos arall gan Lywodraeth Lafur Cymru o ‘gadewch i ni wneud cyhoeddiad arall, a gobeithio’i fod yn rhoi amser i ni feddwl am gynllun.
“Pwy, er enghraifft, fydd yn ‘ffermwr cymwys’?
“Dyma’r math o fanylder sydd ei angen er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr sy’n gweithio’n galed, sy’n rheoli un o’r sectorau diwydiant allweddol yng Nghymru.
“Mae angen sicrhau bod yr arian yma ar gael ar unwaith i sicrhau nad yw ein sector amaeth hanfodol yn dioddef rhagor o niwed.”