Mae Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun saith pwynt tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn Seland Newydd er mwyn datrys sefyllfa’r coronafeirws.
Eu bwriad yw gostwng cyfradd achosion, lleihau nifer yr achosion a gostwng y marwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi i sero.
Yn ôl Adam Price, unwaith fydd yr achosion wedi gostwng, byddai modd gweithredu’n fwy lleol, gan gynnwys ailgyflwyno’r gwarchae (lockdown).
Er mwyn symud i’r cam nesaf, byddai’n rhaid i Lywodraeth “newid gêr” a chynyddu’r profion ac olrhain.
Mae’r gwarchae wedi cael ei ymestyn am dair wythnos arall yng Nghymru, gydag ambell newid “bach”.
Daw cynllun Plaid Cymru wrth i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, baratoi i gyhoeddi unrhyw newidiadau posib i’r gwarchae yn Lloegr.
Pe bai unrhyw lacio, mae Plaid Cymru’n dweud y byddai angen gosod cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru er mwyn osgoi “effaith drychinebus” i gymunedau Cymru.
Y saith pwynt:
- Parhau â’r gwarchae
- Cyfyngiadau teithio ac ail gartrefi, gan gynnwys cwarantîn 14 diwrnod am deithio tramor
- Dilyn model Seland Newydd
- Profi ac olrhain
- Strategaeth i ostwng nifer yr achosion mewn cartrefi gofal
- Cyfnod o addasu, gan ystyried gweithredu’n lleol
- Cefnogaeth ariannol yn sgil y gwarchae
‘Neges glir’
“Gyda chyfradd trosglwyddo’r coronafeirws yn frawychus o uchel, dylid anfon y neges am aros gartref yn glir ac yn uchel,” meddai Adam Price.
“Dyma’r unig ffordd o achub bywydau.
“Drwy barchu’r gwarchae, byddwn ni’n adfer yn gynt.
“Os yw’r prif weinidog yn mynnu llacio’r gwarchae yn Lloegr, mae’n bosib y bydd angen cyfyngiadau teithio yng Nghymru a rhwng Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig er mwyn osgoi’r effaith drychinebus bosib ar ein cymunedau.
“Mae cynllun saith pwynt Plaid Cymru wedi’i ganoli ar barhau â’r gwarchae.
“Pan fydd nifer yr achosion newydd wedi’i ostwng yn ddigonol yn genedlaethol, yna gellir mabwysiadu cynllun mwy lleol, gyda’r gallu i ailgyflwyno mesurau’r gwarchae yn gyflym wrth ymateb i glystyrau newydd.
“Rhaid canolbwyntio’r holl ymdrechion nawr ar ostwng y rhif R – cyfradd ailgynhyrchu’r feirws – er mwyn gostwng nifer y marwolaethau y gellid fod wedi’u hosgoi i sero.
“Dyma’r model sydd wedi’i fabwysiadu mor dda gan Seland Newydd.
“Mae symud ymlaen yn ddiogel i’r cam nesaf ar y llwybr i adferiad yn gofyn bod Llywodraeth Cymru’n newid gêr, yn dileu’r esgusodion ac yn anrhydeddu’r addewidion i gynyddu’r profion ac olrhain.”