Mae ymchwil gan gymdeithas feddygol BMA Cymru yn dangos nad yw 67% o feddygon Cymru’n teimlo fel pe baen nhw’n ddiogel rhag y coronafeirws.
Fe wnaeth 835 o feddygon ymateb i’r holiadur ar ddarpariaeth cyfarpar, eu lles a’u diogelwch personol yn y rheng flaen wrth drin cleifion coronafeirws.
Dywed 60% ohonyn nhw y bu’n rhaid iddyn nhw brynu eu cyfarpar eu hunain, neu eu bod nhw wedi derbyn rhoddion allanol gan nad oedden nhw ar gael trwy’r Gwasanaeth Iechyd.
Dywed 33% na fydden nhw’n trafferthu i leisio barn am ddiffyg cyfarpar neu brinder staff, ac fe ddywedodd 7% eu bod nhw’n ofni lleisio barn.
Mae 27% wedi adrodd am brinder gwisg addas mewn lleoliadau sy’n trin y cleifion mwyaf bregus.
Dydy 17% o’r meddygon ddim wedi cael prawf mwgwd neu wedi methu’r prawf.
Ymateb
Yn ôl Dr David Bailey, cadeirydd BMA Cymru, mae’n “annerbyniol” fod diogelwch meddygon yn y fantol.
“Dw i ddim yn synnu bod meddygon yn teimlo fel hyn,” meddai.
“Dw i wedi clywed hyn yn bersonol gan gydweithwyr – mae’n warthus.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru atgoffa cyflogwyr i annog staff i godi pryderon yn y gweithle.
“Rhaid i staff deimlo bod cefnogaeth ganddyn nhw er mwyn gwneud hynny.
“Dw i’n ofidus iawn gan y ffaith nad yw 67% o feddygon yn teimlo fel eu bod nhw wedi’u diogelu’n llawn rhag COVID-19 yn eu gweithle.
“Gydag un o bob pedwar yn adrodd am straen meddwl yn gwaethygu yn ystod y pandemig, gan gynnwys iselder, gorbryder a blinder dwys, rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a chyflogwyr feddwl am ganlyniadau’r arolwg hwn – ac i weithredu’n gyflym – er mwyn gwarchod staff y rheng flaen sy’n rhoi eu bywydau mewn perygl i gadw pobol Cymru’n fyw ac yn iach, waeth bynnag a ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel neu beidio.
“Mae’n bwysicach nag erioed eu bod nhw’n gwybod fod cefnogaeth i’w hiechyd meddwl.”