Mae cofnodion diweddara’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod pobl yn fwy tebygol o farw o’r coronafeirws mewn ardaloedd tlawd.

Yng Nghymru, mae 44.6 o bob 100,000 o bobol yn yr ardaloedd tlotaf yn marw.

O gymharu, 23.2 o bob 100,000 o bobol yr ardaloedd cyfoethocaf  sydd yn marw.

O ran dynion a merched yn yr ardaloedd tlotaf, mae 61.9 o ddynion yn marw am bob 100,000 o’r boblogaeth, o’i gymharu â chyfradd o 32 ar gyfer merched.

“Mae cyfradd marwolaethau fel arfer yn uwch mewn ardaloedd tlawd, ond mae’n debyg bod Covid-19 yn ei wthio’n uwch,” meddai Pennaeth Dadansoddi Iechyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Nick Stripe.

Ac mae Ysgrifennydd Iechyd Cabinet Cysgodol Llafur yn San Steffan, Jonathan Ashworth, wedi dweud: “Mae hyn yn cadarnhau bod y feirws yn ffynnu ar anghydraddoldeb, gyda phobl sy’n byw mewn ardaloedd tlotach yn dioddef o gyfradd marwolaeth ddwywaith yn uwch nag ardaloedd llai tlawd.”