Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr gofal Cymru’n derbyn £500 yn ychwanegol, ar ben eu cyflog arferol.

Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y taliad yn gydnabyddiaeth i weithlu sy’n aml “yn cael ei danbrisio a’i anwybyddu”.

Bydd oddeutu 64,600 o staff cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ar draws Cymru yn gymwys i dderbyn y taliad.

Dywed y Prif Weinidog bod gweithwyr gofal yn “gofalu am rai o bobl fwyaf bregus ein cymunedau ac yn gwneud hynny gydag ymroddiad mewn amgylchiadau anodd.

“Rwyf am i’r gweithlu gofal cymdeithasol wybod fod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod,” meddai yng nghynhadledd i’r wasg ddyddiol Llywodraeth Cymru.

“Bwriad y taliad yma yw darparu mwy o gydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad i bopeth maen nhw’n ei wneud.”

Mae Mark Drakeford hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i beidio trethu’r £500 fel bod gweithwyr yn derbyn y swm yn ei gyfanrwydd.

A dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal trafodaethau gyda’r Adran Waith a Phensiynau yn San Steffan i sicrhau nad yw’r taliad yn effeithio ar weithwyr sydd hefyd yn derbyn budd-daliadau.

Undeb GMB yn croesawu’r newyddion

Mae undeb y GMB wedi canmol cefnogaeth Llywodraeth Cymru i weithwyr gofal.

“Rydym yn croesawu’r newyddion yma i’r gweithwyr gofal sydd wedi bod yn peryglu eu bywydau drwy ofalu am y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai pennaeth Gofal Cymdeithasol GMB, Kelly Andrews.

“Mae Covid-19 wedi amlygu’r graddfa mae gofal cymdeithasol wedi cael ei danbrisio dros y blynyddoedd.”