Mae 23 yn rhagor o bobl wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru yn y cyfnod 24-awr diweddaraf.

Daw hyn â chyfanswm y marwolaethau i 774.

Er bod 299 o achosion newydd wedi cael eu hadrodd, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod eu nifer yn gwastadhau, yn ôl Dr Chris Williams, pennaeth yr uned sy’n ymateb i’r coronafeirws yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Gall hyn fod yn arwydd o effeithiolrwydd y mesurau cyfyngiadau symud,” meddai. “Fodd bynnag, mae’n rhy gynnar o hyd i ddweud yn sicr, ac mae’n rhy gynnar i roi terfyn ar y rheolau cadw pellter cymdeithasol presennol.”

Er yn pwysleisio pwysigrwydd aros adref, ymatebodd hefyd i’r pryder cynyddol fod pobl yn cadw draw rhag ceisio help gyda phroblemau iechyd.

“Rydym hefyd yn awyddus i atgyfnerthu neges y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru fod gwasanaethau gofal brys ac argyfwng ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn dal ar agor ac ar gael,” meddai.

“Os ydych chi, neu aelod o’r teulu, yn ddifrifol wael neu wedi’ch anafu, dylech ddeialu 999 neu fynd i’ch Adran Achosion Brys agosaf.”