Mae cwmni gwneud pecynnau o Gaerffili wedi arallgyfeirio i gynhyrchu miliwn o dariannau wyneb yr wythnos yma mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru.

Mae tariannau wyneb Transcend Packaging wedi’u cymeradwyo fel cyfarpar sy’n diogelu rhag y coronafeirws, ac fe fyddan nhw hefyd yn cael eu defnyddio mewn ffatrïoedd a gweithleoedd eraill.

Mae’r tariannau’n cael eu cynhyrchu yn ffatri’r cwmni yn Ystrad Mynach lle y mae fel arfer yn gwneud gwellt papur a phecynnau cynaliadwy eraill ar gyfer bwytai gwasanaeth cyflym mwyaf blaenllaw’r byd.

Bydd tua miliwn o’r tariannau wyneb yn cael eu gwneud i gychwyn, ond gall y cwmni gynyddu hynny i bron ddwy filiwn yr wythnos i ateb y galw yn y dyfodol.

Roedd y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bob busnes yng Nghymru a allai helpu i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol – PPE – i helpu i greu cadwyn gyflenwi newydd yng Nghymru.

“Mae Transcend Packaging yn enghraifft wych o’r hyn y gall busnes ei wneud i addasu’r ffordd y mae’n gweithio i gefnogi ein hymateb i bandemig y coronafeirws,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i’r cwmni am bopeth y mae’n ei wneud ac am ymgymryd â’r her.

Mae Transcend yn ymuno â nifer cynyddol o unigolion a chwmnïau sy’n barod i gefnogi a gwneud y cyfarpar sydd ei angen arnom i helpu ein gweithwyr gwych yn y maes iechyd a gofal.”

Mae’r cwmni yn gyflogwr sylweddol yn ne-ddwyrain Cymru ac mae wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol tuag at ei gynlluniau twf.