Er bod y mwyafrif llethol o farwolaethau coronafeirws wedi bod yn ne Cymru, rhaid dal ati i gynllunio ar gyfer y “senario gwaethaf” yn y gogledd a’r gorllewin.

Dyna mae Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru, wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon.

Y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cofnodi nifer y meirw sydd wedi cael prawf positif am COVID-19, gyda’r mwyafrif o’r rheiny wedi marw yn yr ysbyty – ond mi fydd rhai ohonyn nhw wedi marw mewn cartrefi gofal.

Ac mae’r corff cyhoeddus yn pwysleisio bod gwir nifer y meirw yn uwch, am nad yw pawb sydd wedi marw o’r feirws wedi cael prawf COVID-19.

13 wedi eu cofnodi yn yr ardal i’r gogledd o Ferthyr

O’r 641 oedd wedi eu cofnodi wedi marw o COVID-19 yng Nghymru ar Ebrill 22, roedd 628 o’r rheiny yn y de – dim ond 13 o achosion sydd wedi eu cofnodi ym Mhowys, gogledd Cymru a siroedd gorllewinol Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.

Mae mwyafrif o’r marwolaethau a’r achosion wedi’u cofnodi yn ne ddwyrain Cymru, gydag ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (ardal Gwent) ar y brig gyda 213 wedi marw.

Ond er bod y gogledd a’r gorllewin wedi eu heffeithio’n llai difrifol hyd yma, dylem baratoi i bethau waethygu cryn dipyn yno, yn ôl Dr Phil White.

“Rhaid cynllunio ar gyfer y senario gwaethaf,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru. “Hynny yw, y byddem ni’n dioddef yr un peth ag Aneurin Bevan.

“Ond fel mae pethau’n edrych ar y foment, falle bydd hwnna ddim yn digwydd. Ond allwn ni ddim cymryd hynna’n ganiataol.”

“Daeth hanner poblogaeth Lloegr i ogledd Cymru”

Ag yntau’n feddyg teulu yn y Felinheli, mae Dr Phil White yn dweud bod ganddo bryderon mawr am y gogledd ar ddechrau’r argyfwng, ac mae’n tynnu at yr hyn a wnaeth esgor ar y pryder.

“Y peryg mwyaf oedd gennym ni, o’n i’n meddwl, oedd y penwythnos pan wnaethon nhw gau’r ysgolion, a daeth hanner poblogaeth Lloegr i ogledd Cymru,” meddai.

“A dyna le oeddwn i’n poeni y byddai hwnna wedi ei ledaenu. Ond mae hwnna dros dair wythnos yn ôl yn awr, a dydyn ni ddim wedi gweld spike.

“Felly croesi bysedd falle ein bod ni wedi osgoi’r gwaethaf ohono fo.”

Y tabl diweddaraf ar gyfer marwolaethau COVID-19 yng Nghymru

Bwrdd Iechyd Marwolaethau
Aneurin Bevan

(Gwent)

213
Betsi Cadwaladr

(Gogledd Cymru)

**
Caerdydd a’r Fro 146
Cwm Taf Morgannwg

(Rhan helaeth o’r Cymoedd)

147
Hywel Dda

(Dyfed)

**
Powys **
Bae Abertawe

(Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot)

122
Cyfanswm 641

 

Roedd y wybodaeth uchod yn gywir ar Ebrill 22

** Mae nifer y meirw yn ardaloedd y Byrddau Iechyd yn gallu bod yn isel iawn, yn ôl y corff Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly ni fydd yr union ffigwr yn cael ei ddatgelu er mwyn cadw’r meirw yn anhysbys.

MWY AM YR YMATEB I FEIRWS Y CORONA YN RHIFYN YR WYTHNOS YMA O GYLCHGRAWN GOLWG