Mae pecyn tri mis gwerth £6.3m wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi hosbisau yng Nghymru.

Daw’r arian o gronfa Llywodraeth Cymru o £1.1bn i fynd i’r afael â’r feirws.

Arian elusennol yw dau draean o’u hincwm ar hyn o bryd, ac maen nhw ar eu colled o ganlyniad i’r coronafeirws, gyda digwyddiadau codi arian wedi’u canslo, siopau elusennol yn cau ac ymgyrchoedd wedi’u gohirio.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, bydd yr arian ychwanegol hwn yn galluogi hosbisau i barhau i ddarparu gwasanaethau allweddol.

“Wrth i’w hincwm elusennol arferol sychu i fyny, mae yna risg wirioneddol y gallai gwasanaethau hosbis a diwedd oes lithro i fod yn fethdal,” meddai.

“Mae gwasanaethau hosbis a gofal diwedd oes sydd wedi’u darparu gan y sector gwirfoddol yn rhan allweddol o deulu’r Gwasanaeth Iechyd, gan ddarparu gofal hanfodol i fwy nag 20,000 o bobol yng Nghymru bob blwyddyn, a helpu i osgoi derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi.

“Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd flaenoriaethu triniaeth a gofal ar gyfer pobol â Covid-19, mae hosbisau a gwasanaethau gofal diwedd oes yn bwysicach nag erioed, gan ddarparu parhad gwasanaethau i bobol sy’n cael eu heffeithio gan salwch terfynol.

“Bydd yr arian hwn yn sicrhau eu bod nhw’n gallu parhau i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hynny a gofal o safon uchel ledled Cymru.”