Ysblander Eryri
Rhedwr lleol sef Rob Samuel o Eryri Harriers sydd wedi ennill Marathon Eryri eleni gan gwblhau’r ras mewn 2 awr 36 munud.
Murray Strain o’r Hunters Bog Trotters oedd yn ail mewn 2 awr 38 munud ac enillydd llynedd Richard Gardiner o Aberdâr ddaeth yn drydydd mewn 2 awr a 41 munud. Kelly Morgan o Bontypridd enillodd ras y merched mewn 3 awr 11 munud.
Yn ôl y trefnwyr roedd dros 2,000 o gystadleuwyr wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni – y nifer uchaf erioed.
Daeth rhedwyr o bob cwr o’r byd i ddilyn y cwrs 26.3 milltir i gopa Pen y Pass, i lawr o Ben y Gwryd i Feddgelert a wedyn i Waunfawr. Yna fe roeddyn nhw’n rhedeg i fyny i Fwlch y Groes cyn gorffen yn Llanberis.
Dywed y trefnwyr eu bod yn falch o’r gefnogaeth sy’n cael ei roi i’r achlysur gan y gymuned leol.
“Maen nhw’n gorfod wynebu anghyfleustra o ran traffig yn ystod y ras ac yn rhoi cefnogaeth sydd wir ei angen ar gyfer cynnal y digwyddiad,” meddai’r trefnydd Jayne Lloyd.