Mae Cyngor Sir Merthyr Tudful dan y lach am benderfynu ailagor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Tŷ yn Aberfan a Dowlais o ddydd Llun (Ebrill 20) ymlaen.

Yn ôl undebau llafur y GMB ac UNSAIN, mae’r cyngor yn euog o benderfyniad “di-hid a diangen”, ac mi fyddan nhw’n cynghori gweithwyr y ddwy ganolfan ailgylchu i beidio dychwelyd i’r gwaith nes bod asesiad risg wedi ei gwblhau.

Cafodd cynlluniau’r cyngor eu datgelu ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth Cymru ymestyn cyfnod y lockdown.

Yn ôl yr undebau ni fu ymgynghoriad ar y cynllun i ailagor y canolfannau – cam sydd, medden nhw, yn mynd yn groes i ganllawiau Llywodraeth Cymru.

“Mae angen i’r cyngor wrthdroi’r penderfyniad hwn yn syth a gwneud eu bwriadau yn eglur er mwyn ei gwneud yn amlwg i’r gweithlu bod eu hiechyd yn dod gyntaf ac yn flaenoriaeth i’w cyflogwr,” meddai trefnydd y GMB, Gareth Morgans.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Merthyr Tydfil.