Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn blaenoriaethu llafur rhad tros fusnesau Cymreig, yn ôl perchennog cwmni o’r gogledd sy’n darparu gwisgoedd meddygon .

Heddiw mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi eu bod wedi darparu gwaith i dri busnes yng Nghymru wrth ymdrechu i sicrhau PPE (cyfarpar diogelu personol).

Ond mae pennaeth un o’r busnesau yma – a fydd bellach yn creu scrubs i’r Gwasanaeth Iechyd – wedi taflu dŵr oer ar hynny, ac wedi cynnig cip o’r stori y tu ôl i’r llen.

Mae Dafydd Roberts, Perchennog cwmni Brodwaith, sydd wedi’i leoli ym Mhentrefoelas a Llangefni, yn dweud bod ei gwmni wedi treulio dwy flynedd yn gohebu yn ofer â’r Llywodraeth ynghylch y posibiliad o greu gwisgoedd i’r Gwasanaeth Iechyd.

Ac mae yntau’n dweud nad ydyn nhw ond wedi rhoi’r cyfle iddo yn awr gan fod cynhyrchwyr rhad Dwyrain Asia wedi cau dros dro.

‘Dipyn bach fel Trump’

“[Dros y ddwy flynedd diwethaf] roedd aelodau o’r Llywodraeth wedi bod yn deud bod nhw eisiau trio gwneud y pethau yma yng Nghymru,” meddai wrth Golwg360.

“Roeddem ni’n cael jôc fach am y peth. Roedd o dipyn bach fel Trump. Make Wales Great again! A’r syniad oedd ein bod ni’n cynhyrchu yng Nghymru i sector cyhoeddus Cymru.

“Ac yn amlwg, y peth ydy, y rhwystr sydd wedi bod, yn amlwg, ydy’r pris. Fedrwn ni ddim cystadlu efo’r prisiau – maen nhw wedi bod yn cael y stwff o China, neu le bynnag maen nhw wedi bod yn eu cael nhw. Yr offshore manufacturing ‘lly.

“A dyna maen nhw wedi bod yn ei wneud. Mae’r holl beth wedi bod mor price driven mewn ffordd.”

Mae’n galw’r dibyniaeth ar weuthurwyr tramor yn “bryderus iawn”, ac mae cwestiynau’n codi ynghylch a fydd yr hen drefn yn dychwelyd ar ben arall argyfwng covid-19.

Bydd llinell gynhyrchu’r gwisgoedd meddygol yn dechrau ddydd Llun.

“Reit rwystredig”

Nid y scrubs yw’r unig destun rhwystredigaeth i Dafydd Roberts.

Mae’n egluro bod ei gwmni wedi archebu offer diogelwch (llewys plastig) ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd, a bod yr awdurdodau priodol wedi bod yn hynod araf yn ymateb.

“Dw i’n gweld o ‘di bod yn reit rwystredig efo, wel, dim efo’r Llywodraeth ond efo’r Bwrdd Iechyd pan maen nhw’n gwneud penderfyniadau rhwng gwahanol bethau,” meddai.

“Mae gen i PPE sydd wedi bod f’yma ers tair wythnos, oedd y Llywodraeth yn dweud eu bod isio i’r NHS. Ac mi ges i ar ddallt gan yr NHS mae’n cymryd pythefnos iddyn nhw godi purchase order.

“Os nad ydy rhywun mewn argyfwng yn medru derbyn bod rhaid i ni edrych tu allan i’r broses arferol a gwneud penderfyniad, wel, llanast sy’n mynd i fod.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr:

“Rydym wedi rhyfeddu at haelioni anhygoel unigolion, busnesu a chymunedau ledled Gogledd Cymru sydd wedi ateb ein galwad am gefnogaeth i gynhyrchu PPE i staff rheng flaen.“Rydym wedi derbyn nifer fawr o gynigion mewn amser byr ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn prosesu’r rhain ar frys.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru hefyd am ymateb.