Mae’r Swyddfa Masnachu Teg (SMT) yn “ystyried diddymu trwydded” cwmni o Gwmbran sy’n honni eu bod yn prosesu dros 50,000 o fenthyciadau personol y mis yn ôl un o raglenni’r BBC.

Mae rhaglen 5 Live Investigates wedi bod yn ymchwilio i dros fil o gwynion mae nhw wedi eu derbyn yn erbyn Yes Loans Cyf. sy’n codi ffi o oddeutu £69.50 ar gyfartaledd am drefnu benthyciadau o rhwng £250 a £25,000.

Mae llawer o’r rhai sydd wedi cwyno wrth gynhyrchwyr y rhaglen a’r Ombwdsmon Gwasanaethau Ariannol yn honni ei bod wedi talu rhag blaen am fenthyciad gan ganfod wedyn eu bod un ai yn cael eu gwrthod neu yn cael cynnig benthyciad ar raddfa llawer iawn uwch na’r hyn yr oeddyn nhw wedi ei ddisgwyl.

Honna rhai cwsmeriaid eu bod wedi cael trafferth cael ad-daliad hefyd.

Dywed cwmni  Yes Loans eu bod yn ymchwilio i bob cwyn yn drwyadl a’u bod yn benderfynol o ymateb i unrhyw bryderon gaiff eu mynegi gan y SMT.

Fe fydd arolygwr annibynnol o’r SMT rwan yn ystyried y cwynion ac ymateb Yes Loans cyn penderfynu p’run ai i ddiddymu trwydded y cwmni i fasnachu ai pheidio.