Mae rheolwr cartref gofal yn Ynys Môn wedi dweud bod angen i’r awdurdodau yng Nghymru ddysgu o gamgymeriadau Sbaen i osgoi cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal oherwydd y coronafeirws.

Yn ôl Glyn Williams, sy’n rhedeg Cartref Gofal Gwyddfor ym Modedern, mae’r diffyg offer diogelwch a tanariannu diweddar yn y sector yn “chwerthinllyd” ac ni fydd dewis ganddo ond cau’r cartref gofal os na fydd modd iddo ddarparu gofal o safon ddiogel i breswylwyr a staff.

Mewn llythyr at Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth amlinellodd ei bryderon gan ddweud bod angen cymorth ychwanegol ar gartrefi gofal yng Nghymru i achub bywydau.

Diogelu’r bobol fwyaf bregus

Dywedodd Glyn Williams: “Does ond rhaid edrych ar Sbaen a’r holl drigolion oedrannus a ganfuwyd yn farw yn eu gwelyau i weld difrifoldeb y sefyllfa.

“Cyfnod byr iawn o amser sydd gennym i ddiogelu’r bobol fwyaf bregus felly mae’n rhaid dechrau cefnogi staff y sector.

“Dydw i ddim yn credu bod y cynghorau wedi ystyried pa mor ddifrifol fydd hyn, rydym ni ar ben ein hunain.”

Daw pryderon Glyn Williams yn dilyn adroddiadau bod dwy ddynes, a oedd yn breswylwyr yng nghartref gofal Plas Pengwaith yn Llanberis, wedi marw o’r coronafeirws.

“Staff yn ofnus” – Rhun ap Iorwerth

Dywedodd Llefarydd Iechyd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth wrth golwg360 ei fod yn pryderu’n fawr am broblemau cyfenwi a chynhyrchu offer diogelwch ac effaith hyn ar y sector gofal.

“Mae arna’i ofn am fy mywyd gweld sefyllfa fel yr un yn yr Alban lle, gwaetha’r modd, y bu farw 13 o drigolion mewn cartref gofal oherwydd Covid-19.

“Mae staff yma’n teimlo’n ofnus, ac fe ddylen nhw deimlo mor ddiogel ag sydd modd yn y gwaith.”

Pwysleisiodd yr Aelod Cynulliad hefyd bwysigrwydd cynnal profion am y firws: “Rydym ar ei hôl hi lle dylasem fod wedi profi yng Nghymru, a rhaid rhoi blaenoriaeth i gynyddu nifer y profion. Ond rhaid i ni wneud yn siŵr fod gwerth cynnal profion yn y sector gofal yn cael ei gydnabod hefyd.”

Adnoddau

Cyn gweithio yn y sector gofal bu Glyn Williams yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol (RAF), ac mae wedi penderfynu defnyddio ei brofiad er mwyn ceisio gwneud y cartref gofal Gwyddfor mor ddiogel â phosib.

Yn ogystal â hyfforddi staff ychwanegol mae pebyll diheintio tri cham wedi eu gosod wrth fynedfa’r cartref.

“Yn yr Awyrlu Brenhinol roedd gen i’r adnoddau i gadw pobol yn ddiogel a gwneud y gwaith yn ddiogel.  Rwy’n gofyn bod yr awdurdodau yn rhoi’r adnoddau i ni wneud ein gwaith ac achub bywydau.”

 

“Galwad frys i weithredu”

Dywedodd Mario Kreft, Cadeirydd Fforwm Gofal Cymru, sy’n cynrychioli bron i 500 o ddarparwyr gofal cymdeithasol annibynol: “Bydd yr argyfwng yma yn her i ni gyd a rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael eu hachub.

“Rydym wedi aros yn rhy hir, mae angen galwad frys i weithredu neu bydd mwy o bobol yn marw na fyddai fel arall.”

“Mae 20,000 o welyau mewn cartrefi gofal Cymru o’i gymharu â 12,000 o welyau yn ein hysbytai, felly mae gan ofal cymdeithasol rôl gwbl hanfodol i’w chwarae wrth gefnogi’r Gwasanaeth Iechyd (GIG), a hynny’n fwy nag erioed erbyn hyn.”