Mae cynllun ar droed i geisio lleihau nifer y bobl sy’n dringo’r Wyddfa. Daw’r cynllun yn sgil pryderon na ellir ymdopi bellach â’r niferoedd sy’n ymweld â’r copa. Gwnaed y penderfyniad brys wedi i dwristiaid heidio yno’n ddiweddar.

Bwriad y prosiect fydd cyfyngu ar yr hyn sydd i’w wneud ar y copa, a thrwy hynny leihau nifer yr ymwelwyr. Mae’r cynllun wedi ei ysbrydoli gan sawl prosiect tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.

Arbenigwyr

Bydd tîm o arbenigwyr yn dymchwel carn yr Wyddfa yn ofalus ac yn ei throsglwyddo i’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, Caerdydd. Caiff ei hailadeiladu yno yn fanwl gywir er mwyn i ymwelwyr gael ei dringo a chymryd hunluniau. Bydd copi o’r garn hefyd yn cael ei chreu i fynd ar daith i drefi a dinasoedd eraill ym Mhrydain.

Dywedodd Elidir Derlwyn, a fydd yn cydlynu Teithiau’r Garn: “Y bwriad yw mynd a’r mynydd at y twristiaid – bydd hyn yn lleihau’r problemau parcio ry’n ni wedi’u gweld yn lleol.”

Dywedodd Dr Llywelyn Dafydd, a fydd yn arwain y prosiect cyfan, “mae’n amlwg fod yr atyniad yn rhy atyniadol, felly mae’r penderfyniad wedi’i wneud i weithredu i leihau’r niferoedd.”

Dywedodd Dr Dafydd fod sawl datrysiad wedi ei ystyried cyn cymryd y cam mawr hwn: “Ystyriwyd cau’r llenni yn Hafod Eryri, ond y farn oedd nad oedd hynny’n ddigonol. Felly, mewn gwirionedd, doedd dim amdani ond dymchwel y garn a’i symud at lawer o atyniadau eraill Cymru yn Sain Ffagan.”

Dywedodd nad oedd union fanylion y trosglwyddo wedi’i setlo eto: “Bydd rhai gweithwyr yn cario’u llwyth ar lwybr Rhyd Ddu, a rhai’n cymryd Llwybr y Mwynwyr – fydd neb yn cymryd Crib Goch, mae hynny’n sicr.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Garn yr Wyddfa fynd ar grwydr. Cafodd ei ddwyn unwaith beth amser yn ôl, ond datryswyd hynny gan Cadwgan – y Llygoden o’r Lleuad, o bobman. Yn anffodus, nid oedd Cadwgan ar gael i roi sylw.

Cefnogaeth

Mae peth cefnogaeth i’r prosiect yn lleol, dywedodd Elen Gwynant sy’n rhedeg caffi lleol: “Mae o’n syniad da, does na ddim llawer o betha yn mynd i Gaerdydd, felly mae’n iawn eu bod nhw’n cael Carn yr Wyddfa.”

Pan ofynnwyd i Elidir Derlwyn beth ddylai pob ei wneud yn lle cerdded i fyny’r Wyddfa, dywedodd: “A bod yn deg, fe gewch chi’r un workout o gerdded fyny’ch grisiau 300 o weithiau a wedyn edrych drwy’r ffenest. Gewch chi fwyd gwell yn fanno hefyd, ella. Ac os ydach chi eisiau’r profiad llawn, gofynnwch i’ch cymdogion chi gyd i barcio yn eich gardd.”

Fodd bynnag, nid pawb oedd o blaid y syniad: “Petawn i’n gwybod fod y garn am fynd ar daith, fydden i di aros i gael ei weld adref” meddai Mrs April Fool o’r Amwythig.