Mae Angela Burns, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi mynegi pryder am ddiffyg profion y coronafeirws yng Nghymru.
Roedd disgwyl i hyd at 6,000 o brofion gael eu cynnal bob dydd, ond dim ond 800 sydd wedi bod yn bosib.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, dim ond 3,000 o brofion dyddiol fydd yn bosib erbyn diwedd mis Ebrill – dim ond traean o’r nod.
Mae 80,000 o bobol wedi’u cyflogi gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac mae angen i weithwyr y gwasanaethau gofal cymdeithasol, meddygon teulu a fferyllwyr hefyd gael profion.
‘Torcalonnus’
“Dw i’n gofidio’n fawr am y digwyddiadau diweddaraf,” meddai Angela Burns mewn datganiad.
“Mae’n dorcalonnus fod y cytundeb wedi torri i lawr ond pam nad oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun wrth gefn?
“Nawr, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n hanfodol ein bod ni’n gallu profi ein staff ar y rheng flaen, ac rydyn ni wythnosau ar ei hôl hi wrth roi prosesau yn eu lle.”
Mae’n dweud bod rhaid sicrau bod staff y Gwasanaeth Iechyd a’u cleifion yn ddiogel, a’u bod nhw’n peryglu eu bywydau.
“Mae gweddill y Deyrnas Unedig yn mynd i frwydr i drechu’r feirws ofnadwy,” meddai.
“Yng Nghymru, mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r labordai ledled Cymru’n llawn mewn busnesau preifat, prifysgolion ac unrhyw sefydliad arall all ein helpu ni i gynyddu’r profion yn sylweddol ac yn gyflym.”