Fe fydd staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael teithio’n rhad ac am ddim ar fysus yng Nghymru, am dri mis fel rhan o becyn gwerth £69m i helpu cwmnïau yn ystod ymlediad y coronafeirws.
Mae nifer y teithwyr ar fysus yng Nghymru wedi gostwng 90% ers i’r feirws gyrraedd y wlad, wrth i bobol ddilyn gorchymyn i aros yn eu cartrefi.
Mae’r fath gynllun wedi bod yn ei le ers tro ar drenau.
“Mae’r galw am drafnidiaeth gyhoeddus wedi gostwng yn sylweddol wrth i bobol ddilyn y rheolau newydd i aros gartre’ i achub bywydau ac amddiffyn ein Gwasanaeth Iechyd,” meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi.
“Mae ein darparwr prydles rheilffyrdd, cwmnïau bysus a gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol – nifer ohonyn nhw’n fusnesau bach ac yn elusennau – yn wynebu heriau ariannol sylweddol.
“Bydd y gefnogaeth hon yn rhoi’r arian cychwynnol sydd ei angen ar wethredwyr trafnidiaeth gyhoeddus i gyflwyno gwasanaethau, talu gweithwyr ac is-gontractwyr, tra ein bod ni’n cydweithio â nhw i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o fesurau i sicrhau rhwydwaith bysus effeithlon, cynaladwy a chadarn.”
Arian
Fe fydd cronfa’n cael ei chynnig fis ymlaen llaw am dri mis yn lle arian sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd drwy grant cefnogi’r gwasanaethau bysus, ffioedd teithio presennol a thrwydded deithio arferol.
Yn gyfnewid am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, fe fydd rhaid i gwmnïau bysus ymrwymo i gynnig gwasanaeth wedi’i amserlennu, a bydd holl staff y Gwasanaeth Iechyd yn cael teithio’n rhad ac am ddim.
Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn cynnig teithiau trên rhad ac am ddim i staff y Gwasanaeth Iechyd.
Mae teithiau Traws Cymru wedi’u hatal yn ystod y cyfnod pan fo rhaid i bobol aros yn eu cartrefi, ac mae’r gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn dod i ben am dri mis hefyd.
‘Gwarchod y cyhoedd, gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus a’n Gwasanaeth Iechyd’
“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig cynaladwy ledled Cymru,” meddai Ken Skates.
“Ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gwarchod y cyhoedd, gweithwyr trafnidiaeth gyhoeddus a’n Gwasanaeth Iechyd.
“Rhaid i ni weithredu nawr er mwyn sicrhau, pan fod y pandemig yn dod i ben, fod gyda ni rwydwaith bysus a threnau i’n galluogi ni i wireddu’r uchelgais yma.”