Mae 75% o Gymry eisiau gweld pawb yn cael eu profi ar gyfer y coronafeirws, yn ôl ymchwil gan YouGov ac S4C.
Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Mawrth 17-20 ar gyfer y rhaglen ‘Y Byd yn ei Le’, gyda 1,117 o bobol wedi cael eu holi.
Y cwestiwn cyntaf yn yr arolwg oedd “Gan feddwl am brofi’r rhai sy’n arddangos symptomau tebyg i’r coronafeirws, p’un o’r canlynol sy’n dod agosaf i’ch barn?”.
Dywedodd 75% y “dylai unrhyw un sy’n arddangos symptomau tebyg i’r coronafeirws allu cael prawf”.
Roedd 19% o’r farn mai “dim ond y rhai sy’n arddangos symptomau tebyg i’r coronafeirws ddylai allu cael prawf”.
Dim ond 2% oedd o’r farn nad oes angen profi unrhyw un, gydag 1% yn dweud nad ydyn nhw’n cytuno â’r un o’r datganiadau, a 4% ddim yn gwybod.
Sut i ymdrin â’r feirws yng Nghymru
Roedd yr ail gwestiwn yn ymwneud â pha gamau i’w cymryd er mwyn atal ymlediad y feirws yng Nghymru.
Roedd 45% o’r farn y dylid “cau gofod cyhoeddus yn llwyr”, gan gynnwys ysgolion, bwytai a thafarndai, ac y dylid gosod cyrffiw.
Dywedodd 42% y dylid cyflwyno “ymbellháu cymdeithasol”, ond na ddylid cau gofod cyhoeddus na chyflwyno cyrffiw.
Dim ond 5% oedd yn dweud na ddylid cyflwyno “ymbellháu cymdeithasol”, 1% yn dweud na ddylid cyflwyno’r un o’r mesurau, a 6% ddim yn gwybod.
Ymateb Llywodraeth Cymru i’r feirws
Mae’r trydydd cwestiwn yn mesur barn y cyhoedd am ymateb Llywodraeth Cymru i’r feirws.
Dim ond 2% oedd yn credu bod yr ymateb yn “dda iawn”, gyda 26% yn dweud bod eu hymateb yn “eithaf da”.
Ond roedd 20% yn credu bod eu hymateb yn “eithaf gwael” a 12% yn dweud “gwael iawn”.
Doedd 39% “ddim yn gwybod”.
Mae rhaglen ‘Y Byd yn ei Le’ ar gael i’w gwylio ar S4C Clic.