Mae angen trafod cefnogi awdurdodau lleol gyda gwasanaethau claddu pe bydda nhw’n ei chael hi’n anodd i ddelio gyda niferoedd y marwolaethau yn sgil y coronafeirws, meddai Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething.

Mae Vaughan Gething yn hunan ynysu ar hyn o bryd ar ôl i’w fab ddatblygu peswch.

“Os ydyn ni am weld lefelau o farwolaethau fydd yn golygu na fydd y broses arferol yn medru dygymod, yna mi fydd yn rhaid gwneud newidiadau,” meddai wrth bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad Cenedlaethol drwy gyswllt fideo.

“Gall y rhan gyntaf olygu cynyddu llefydd i gadw’r meirwon, a sut arall gall yr awdurdodau lleol gael gafael ar lefydd i gadw’r cyrff.”

“Yna mae angen ystyried beth mae hynny yn ei olygu yn nhermau claddu a gwaredu, ac a fydd hi hyd yn oed yn bosib i wneud gwaredu unigol petai’r achos yn cyrraedd y man gwaethaf.”

Profi

Dywedodd Dr Frank Atherton fod ynysu a phellter cymdeithasol yn gam rhesymol i arafu’r coronafeirws, ac mae’r holl waith sydd yn mynd ymlaen yn rhoi amser i baratoi’r Gwasanaeth Iechyd a’r gofal cymdeithasol.

Roedd yn pwysleisio fod angen cadw’r staff angenrheidiol yn y gweithle os yn bosib.

“Rydym yn barod yn gweld y mesurau a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn tynnu pobl o’u gwaith felly rydyn ni’n edrych ar broses o brofi gweithwyr iechyd.”

“Fe wnes i gyhoeddi canllawiau ddoe i’r system iechyd o bwy ddylai gael blaenoriaeth i gael eu profi fel ein bod yn medru gwneud yn siŵr fod y staff iechyd angenrheidiol yn dod yn ôl i’r gwaith yn gyflym os yw’n addas.”

Yn ôl Dr Frank Atherton, mae’n sylweddoli fod angen i’r profi yma ymestyn ymhellach na hynny ar draws Cymru a Phrydain, i fyd gofal cymdeithasol yn bennaf ac mewn ysgolion.

“Mae ‘na sectorau eraill hefyd y mae angen i ni feddwl amdanyn nhw,” meddai.

“Heddlu, tân ac achub. Mi fydd hyn yn effeithio ar bob agwedd o’r sector cyhoeddus a thu hwnt.”