Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi cyhoeddi cyngor i ymwelwyr yn sgil coronavirus, gan ddweud y bydd yn aros ar agor i addolwyr.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “glanhau arwynebau, yn enwedig dolenni drysau, yn gyson yn ystod y dydd”.

Ond maen nhw’n cynghori ymwelwyr i gadw “pellter cymdeithasol” oddi wrth ymwelwyr eraill ac aelodau staff, ac i addolwyr eistedd o leiaf fetr oddi wrth ei gilydd.

Maen nhw’n dweud y bydd offeiriaid yn golchi eu dwylo “cyn ac ar ôl gwasanaethau” a chyn arwain cymundeb, ac na fydd cyswllt corfforol rhwng offeiriaid ac addolwyr.

Fydd dim casgliad yn ystod gwasanaethau, ond bydd modd i ymwelwyr roi ar eu ffordd i mewn neu allan, a fydd dim te a choffi ar ôl y gwasanaeth boreol am 9.30yb.

Maen nhw’n gofyn i ymwelwyr olchi eu dwylo cyn dod neu wrth gyrraedd, ac i gadw draw os oes ganddyn nhw symptomau.