Mae pobl fydd yn gwylio’r ornest rhwng Cymru a’r Alban mewn tafarndai mewn mwy o beryg o ddal Coronafeirws na’r dorf fydd yn gwylio yn y Stadiwm Cenedlaethol, yn ôl Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Prydain.
“Dw i’n meddwl bod pobl yn fwy tebygol o ddal y firws mewn tafarndai a mannau eraill lle bydd pobl yn ymgynnull i wylio’r gêm, na’r stadiwm ei hun,” meddai Syr Patrick Vallance wrth y BBC.
Wnaeth o ddim cynghori pobl i gadw draw o dafarndai a sefyllfaoedd cymdeithasol, fodd bynnag, dim ond ailadrodd y dylai pobl gyda symptomau aros gartref.
Hefyd roedd Syr Patrick Vallance yn annog pobl i olchi eu dwylo ar ôl bod yn agos at eraill.
“Debygol o fod yn firws blynyddol”
Mae Syr Patrick Vallance wedi dweud ei fod o’n credu y gallai Coronafeirws ddod yn salwch sy’n effeithio ar bobl bob blwyddyn.
“Dw i’n meddwl ei fod yn debygol o fod yn firws blynyddol, yn haint tymhorol.”
Dywedodd wrth raglen Today BBC Radio 4 bod y Llywodraeth yn ceisio lleddfu effaith y firws “pan fydd ar ei anterth” a datblygu imiwnedd ymysg y boblogaeth.
“Yr hyn yr ydym eisiau osgoi yw pawb yn dal y firws mewn cyfnod byr o amser a gorweithio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – byddwn yn ceisio lleddfu effaith y firws pan fydd ar ei anterth.”