Mae Llywodraeth Cymru’n “gweithio am y gorau, ond yn cynllunio am y gwaethaf” wrth geisio mynd i’r afael a’r coronavirus, meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford mewn cynhadledd newyddion heddiw (dydd Llun, Mawrth 2).

Daw hyn wrth i fwy o achosion o’r firws gael eu cadarnhau ar draws gwledydd Prydain. Mae 40 o achosion yn y Deyrnas Unedig erbyn hyn yn dilyn pedwar achos newydd heddiw. Mae un achos wedi’i gadarnhau yng Nghymru, a hynny yn Abertawe.

Roedd Mark Drakeford wedi bod mewn cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra a gafodd ei gadeirio gan y Prif Weinidog Boris Johnson bore ma. Roedd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon hefyd yn bresennol yn y cyfarfod yn dilyn achos o’r firws yn yr Alban.

Dywedodd Mark Drakeford eu bod wedi trafod sut y gallai’r Gwasanaeth Iechyd ymdopi gyda mwy o achosion o’r firws Covid-19 ond eu bod yn gytûn bod angen i lywodraethau “barhau i ddilyn cyngor gwyddonol.”

Mae pedair uned arbenigol wedi eu sefydlu i ddelio â’r firws, un i bob gwlad yn y Deyrnas Unedig.

“Parhau yn ôl yr arfer”

Mae Mark Drakeford wedi annog y cyhoedd i “barhau yn ôl yr arfer” yn dilyn yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru ddydd Gwener (Chwefror 28).

Ond rhybuddiodd na ddylai unrhyw un sy’n amau eu bod yn dioddef o’r firws fynd at y doctor neu i’r ysbyty.

“Rydym yn annog pobl un ai i ffonio rhif 111 neu geisio am gyngor rhad ac am ddim ar NHS Direct,” meddai’r Prif Weinidog.

“Bydd hyn yn rhwystro unrhyw un sydd yn dioddef o’r firws rhag ei ledaenu i bobl eraill.”

Yn hytrach, bydd profion yng Nghymru yn digwydd mewn canolfannau cymunedol.

Mae 95% o’r profion sydd eisoes wedi digwydd yng Nghymru wedi cael eu gwneud mewn canolfannau cymunedol.