Mae gorymdeithiau di-ri ar y gweill ledled Cymru dros y penwythnos i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ond mae digwyddiadau eraill wedi dioddef yn sgil y tywydd garw.
Mae gorymdeithiau’n cael eu cynnal heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 29) yn Aberystwyth, Aberteifi, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Pontypŵl, Aberaeron, Bangor, Pwllheli a sawl ardal arall.
Cafodd gorymdeithiau eu cynnal ddoe yn Ninbych, Porthcawl a Bae Colwyn ddoe (dydd Gwener, Chwefror 28), ond bu’n rhaid canslo’r orymdaith yng Nghaernarfon.
Ond cafodd gorymdaith Tregaron, y gyntaf i’w chynnal yno, ei chanslo ddoe oherwydd y tywydd, ac mae’r un yn Abertawe wedi’i gohirio heddiw er bod digwyddiadau ymylol yn mynd yn eu blaenau yng nghanol y ddinas.
Bydd gorymdaith yn Wrecsam yfory, ac yn Llangefni ddydd Mercher (Mawrth 4).
Wedi dechrau! #GwylDewi pic.twitter.com/dq4JfJnaex
— Parêd Gwyl Dewi Aber (@GwylDewiAber) February 29, 2020
Parêd Gŵyl Dewi arbennig yn Llanbed heddiw diolch i @CTLLPSLTC. pic.twitter.com/AKk2pTbjZ7
— Clonc 360 (@Clonc360) February 29, 2020
🏴 PUMP gorymdaith Gŵyl Dewi yng Ngheredigion dros y penwythnos. Glywoch chi erioed am gymaint â ’ny o’r blaen?!
Pob hwyl i bob parêd, ac i’r gig yn Llanbed heno 👌
Dyma stori #NewyddionDa yr wythnos gan @Golwg360 ar @Clonc360.@MICered @GwylDewiAber https://t.co/K3ZdNFgyRk
— 📣 Bro360 (@Bro__360) February 28, 2020
Oherwydd gwyntoedd cryf a glaw, bu’n rhaid i ni ganslo Gorymdaith y Dreigiau Dydd Gŵyl Dewi heddiw. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. #GŵylCroeso https://t.co/rhR1QvAgkK
— Joio Bae Abertawe (@JoioBaeAbertawe) February 29, 2020
Ychydig mwy o luniau gorymdaith #dyddgwyldewi #Dinbych / A few more photos of the #StDavidsDay parade in #Denbigh pic.twitter.com/l7FMANIRfK
— Menter Iaith Sir Ddinbych 🏴 (@MIDinbych) February 28, 2020
Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw mae Parêd Gŵyl Dewi Tregaron heddiw wedi ei gohirio.
Ymddiheuriadau am hynny ond mae’r tywydd tu hwnt i ni ac mae’n rhaid i ni rhoi diogelwch pobl yn gyntaf.
Mwy o fanylion i ddilyn.
— Menter Iaith Cered (@MICered) February 28, 2020