Hawliodd cyflogwyr Cymru gwerth £1.2 biliwn o lafur am ddim y llynedd, wrth i’w gweithwyr gyflawni oriau lu o waith ychwanegol di-dâl.
Dyma un o gasgliadau undeb y TUC (Cyngres yr Undebau Llafur) ar ei 16eg ‘Diwrnod Byddwch yn Ymwybodol o’ch Oriau Iawn’.
Mae ffigurau’r undeb hefyd yn dangos bod bron i 200,000 o bobol wedi cyflawni, ar gyfartaledd, wyth awr o waith ychwanegol di-dâl yn 2019.
Wrth i’r Deyrnas Unedig ddechrau trafodaethau masnach â’r Undeb Ewropeaidd, mae’r TUC wedi galw am ddiogelu gweithwyr dan unrhyw ddêl.
Bosys yn “dwyn amser”
“Mae gormod o fosys yn llwyddo dwyn amser eu gweithwyr,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj.
“Ond yn hytrach na chryfhau diogelwch [gweithwyr] mae gweinidogion [y Prif Weinidog] Boris Johnson eisiau cael gwared ar yr ychydig rhai sydd gennym ni.
“Mae gorweithio staff yn gwneud gweithwyr yn llai cynhyrchiol, yn rhoi straen arnyn nhw ac yn eu blino, ac yn bwyta’r amser y dylen nhw dreulio â ffrindiau.
“Dyma pam bod yn rhaid i unrhyw ddêl masnach ddiogelu hawliau cyflogi.”