Mae ymchwil yn dangos y byddai rhai o blant Cymru’n barod i fwyta pryfed i ginio yn yr ysgol.
Mae academyddion wedi bod yn astudio agweddau plant tuag at fwyta pryfed – neu entomophagy.
Cafodd sesiynau blasu eu cynnal gyda bron i 200 o ddisgyblion yng Nghymru, gan ddefnyddio cynnyrch sydd wedi’i greu gan ddefnyddio pryfed a briwgig protein planhigion.
Mewn tair ysgol, cafodd disgyblion flasu byrger a bolognese VEXo, sy’n cael eu creu gan y cwmni Cymreig, Bug Farm Foods.
Yn ôl ymchwilwyr, roedd y plant yn hoff o’r prydau ac yn agored i’r syniad o fwyta bwydydd tebyg yn gyson.
Roedd y bolognese VEXo yn hynod boblogaidd ymhlith y disgyblion, a phan gafodd y pryd ei roi ar fwydlen yr ysgol dros dro, dewisodd 60% o’r plant y pryd hwnnw yn hytrach na phryd traddodiadol.
“Dyma’r tro cyntaf mae ymchwil fel hyn wedi ffocysu ar bobl ifanc, a dyma’r tro cyntaf mae sesiynau blasu gyda phryfaid bwytadwy wedi cael ei gynnal,” meddai Dr Verity Jones, arweinydd yr ymchwil.
“Efallai ei fod yn sioc i’r rhieni, ond roedd ymateb y plant yn hynod bositif.”