Fe fydd ardaloedd gwledig yn ne-ddwyrain Cymru’n elwa o gyfres o dreialon technoleg 5G a gaiff eu cyllido gan y Llywodraeth.
Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Digidol yn llywodraeth Prydain, Oliver Doweden, y bydd y prosiect CoCore yn derbyn £5m i gysylltu cymunedau gwledig yn Sir Fynwy a Blaenau Gwent.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Digidol eu bod nhw’n “benderfynol nad yw trefi a phentrefi yng Nghymru yn cael eu gadael ar ôl a chael y cysylltedd 5G o’r radd flaenaf sydd ei angen arnynt i ffynnu.”
Mae technoleg 5G yn gallu bod hyd at ddeg gwaith yn gyflymach na thechnoleg 4G.
Y gobaith yw bydd y cynllun yn cynnig atebion arloesol mewn meysydd fel twristiaeth a diogelwch ffermio.
Yn ôl Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i ddileu’r gwahaniaeth rhwng ardaloedd trefol a gwledig, ac yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio technoleg 5G i ddatblygu diwydiannau newydd, gan gefnogi ein heconomi wledig yng Nghymru.”
Bydd cyfanswm o naw prosiect ledled Cymru, Lloegr a’r Alban yn derbyn cyfran o £35m.
Mae cystadleuaeth agored newydd gwerth £30 miliwn, 5G Create, hefyd yn cael ei lansio fis Mawrth i ddatblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio 5G mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys sectorau creadigol fel ffilm, teledu a gemau fideo.