Mae staff Cyngor Powys wedi cael eu brolio am eu gweithredoedd “anghredadwy” pan hyrddiodd Storm Dennis y sir, gan achosi llifogydd a difrod mawr, a hynny am yr ail benwythnos yn olynol.
Tarodd Storm Dennis Gymru ddydd Sadwrn (Chwefror 15) gan achosi trafferthion ar draws y sir, gyda threfi megis Crughywel yn cael eu heffeithio’n ddifrifol.
Roedd Aberhonddu, y Trallwng a Llanfair-ym-Muallt hefyd ymysg y llefydd gafodd eu heffeithio’n ddrwg, gyda llifogydd a thirlithriadau’n amharu ar yr ardal.
Mae’r Cynghorydd Heulwen Hulme, yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Rheoli Gwastraff, wedi canmol staff y Cyngor am eu gwaith caled wrth iddyn nhw geisio diogelu eiddo a busnesau yn y sir.
“Unwaith eto roedd ein staff wedi ymateb yn anhygoel i storm Dennis a oedd wedi taro’r sir gan adael llwybr o ddifrod a llifogydd,” meddai.
“Roedd criwiau’n gweithredu ar draws Powys ac yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys yn helpu preswylwyr ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r difrod i’r lefel isaf posib.”