Mae dau rybudd coch yn eu lle ar gyfer afon Gwy yn ardal Trefynwy, sy’n golygu bod bywydau mewn perygl.

Erbyn 3.30 fore heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 18), roedd lefel yr afon wedi cyrraedd 7.03 metr ac roedd yn dal i godi.

Mae disgwyl y bydd yn cyrraedd ei lefel uchaf eto fore heddiw cyn 8.30yb.

Yn ôl yr awdurdodau, mae Storm Dennis wedi achosi tywydd difrifol sy’n codi afonydd i lefelau “eithriadol”.

Symud trigolion o’u cartrefi

Mae trigolion sy’n wynebu’r perygl mwyaf wedi cael eu symud o’u cartrefi i ganolfannau yn y dref.

Mae cartrefi eraill wedi derbyn sachau tywod i’w hamddiffyn rhag y llifogydd sy’n debygol o’u taro.

Mae pont Gwy ynghau i’r cyhoedd, ac mae rhybudd i gerddwyr a modurwyr gadw draw.

Mae’r awdurdodau’n parhau i asesu’r sefyllfa.

“Wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi rhybudd llifogydd difrifol, rydym yn wynebu amserau di-gynsail a’r disgwyl yw y bydd lefelau’n codi’n uwch nag erioed yn yr ardal hon,” meddai Peter Fox, arweinydd Cyngor Sir Fynwy.

“Mae’r cyngor ac asiantaethau sy’n bartneriaid yn wynebu cyfnod prysur dros ben dros y 24 awr nesaf wrth i ni ymdrin â sicrhau bod y rhai sydd wedi’u heffeithio’n ddiogel.

“Fe fydd anghyfleustra wrth gau pont Gwy ond dw i’n gofyn i bawb fod yn amyneddgar wrth i’r gwaethaf basio drwy’r dref.

“Bydd angen i dimau asesu’r ardal ar ôl i’r lefelau ostwng ac fe fydd yn cael ei hail-agor unwaith y bydd yn ddiogel i wneud hynny.

“Dilynwch gyngor yr awdurdodau a’r gwasanaethau brys, os gwelwch yn dda.”