Iwerddon 24–14 Cymru
Colli fu hanes Cymru wrth iddynt ymweld â Stadiwm Aviva i herio Iwerddon ym Mhencampriaeth y Chwe Gwlad brynhawn Sadwrn.
Ni fydd Camp Lawn i dîm Wayne Pivac ond mae gobeithion y Gwyddelod yn fyw o hyd wedi’r fuddugoliaeth bwynt bonws.
Hanner Cyntaf
Wedi deunaw munud di sgôr a digon blêr, daeth cais cyntaf y prynhawn i’r Gwyddelod. Y cefnwr, Jordan Lamour, a gafodd y sgôr, yn torri trwy daclo gwan Cymru yn rhy rhwydd o lawer.
Aeth Cymru ar y blaen yn erbyn llif y chwarae serch hynny wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae, Tomos Williams yn croesi wedi gwaith creu da Alun Wyn Jones a Dan Biggar.
Ond Iwerddon a orffennodd yr hanner gryfar ac roeddynt yn haeddu mynd yn ôl ar y blaen gyda chais Tadhg Furlong, y prop yn cael ei hyrddio drosodd gyda chymorth rhai o’i gyd flaenwyr wyth munud cyn yr egwyl.
Ymestynnodd trosiad Johnny Sexton y fantais i bum pwynt wrth droi, sgôr derbyniol o safbwynt Cymru o ystyried goruchafiaeth y Gwyddelod.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda’r tîm cartref yn rheoli, ac roedd dwy sgôr yn gwahanu’r timau o fewn dim.
Josh Van Der Flier a gafodd y trydydd cais, y blaenasgellwr yn cael ei wthio drosodd gan sgarmes symudol arall, 19-7 y sgôr wedi trosiad Sexton.
Cafodd Cymru gyfnod gwell wedi hynny a daeth Hadleigh Parkes o fewn modfedd at gyrraedd y gwyngalch cyn colli’r bêl. Yna, trodd y momentwm drachefn wedi i’r Gwyddelod ennill sgrym amddiffynnol yng nghysgod pyst eu hunain chwarter awr o’r diwedd.
Hwnnw a oedd cyfle Cymru a buan iawn y diflannodd yr amser a gobeithion yr ymwelwyr wedi hynny.
Rheolodd Iwerddon y gêm yn eu dull nodweddiadol yn y munudau olaf gan sicrhau’r pwynt bonws hefyd gyda chais hwyr Craig Conway, gan olygu mai cais cysur yn unig a oedd sgôr hyd yn oed hwyrach Justin Tipuric i Gymru, 24-14 y sgôr terfynol.
.
Iwerddon
Ceisiau: Jordan Lamour 19’, Tadhg Furlong 32’, Josh Van Der Flier 47’, Craig Conway 75’
Trosiadau: Johnny Sexton 33’, 48’
Cerdyn Melyn: CJ Stander 80’
.
Cymru
Ceisiau: Tomos Williams 27’, Justin Tipuric 80’
Trosiadau: Dan Biggar 28’, Jarrod Evans 80’