Ar drothwy gêm Cymru yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Aviva, fe fu golwg360 yn holi Robin McBryde, hyfforddwr sgrym tîm rygbi Leinster a chyn-hyfforddwr blaenwyr Cymru, am ei fywyd newydd yn ninas Dulyn.
Robin, sut ddaethoch chi i symud i Leinster?
Gefais i alwad gen [y prif hyfforddwr] Leo Cullen. Roedd hwnna’n ddigon, a deud y gwir, o ran cyfle i weithio yn rhywle fel Leinster, clwb o safon sydd efo enw arbennig o dda. Doedd ’na’m lot i feddwl amdano fo, a deud y gwir, unwaith roedd y cynnig wedi dod. O’n i’n teimlo’n freintiedig i gael yr alwad, ac roedd y penderfyniad wedi cael ei wneud.
Daeth yr alwad ar adeg anodd yn eich bywyd personol. Wnaeth hynny effeithio ar eich penderfyniad?
Gefais i’r alwad ddim yn hir ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad felly roedd y penderfyniad wedi cael ei wneud cyn bo fi’n colli Mam, a deud y gwir. Ro’n i wedi cyrraedd nôl o Gwpan y Byd a dim ond wythnos gefais i adre’ i dreulio efo fy nheulu. Oedd hynna’n eitha’ anodd ond o’n i’n gwybod fod seibiant yn mynd i ddod cyn edrych ymlaen at y tymor felly oedd o jest yn pen i lawr a chadw fynd nes bo fi’n cael cyfle. Dydi o ddim yn hawdd pan fo rhywun yn colli rhiant, colli Mam, ond mae rhaid palu ymlaen a dyna wnes i, jest taflu fy hun i mewn i’r gwaith.
Oeddech chi’n teimlo’ch bod chi wedi cyflawni popeth oedd i’w gyflawni gyda Chymru erbyn i chi adael?
Wnaethon ni ddim ennill Cwpan y Byd ond gallwn ni fod yn fwy na bodlon, yn eitha’ balch a deud y gwir, o’r tîm a be’ maen nhw wedi’i gyflawni dros y cyfnod. Mae ffactorau bach yn medru dylanwadu ar ganlyniadau gemau ac yn y blaen. Roedd y bechgyn wedi rhoi cymaint ag y gallen nhw allan yn Japan a dros y blynyddoedd hefyd, a deud y gwir. ’Dan ni ddim wedi bod yn bell ohoni ar sawl achlysur. I greu’r dyfnder ar ôl y 12 neu 13 o flynyddoedd o’n i yno, dwi’n meddwl bo ni wedi gadael y garfan mewn lle iach iawn ac yn edrych ymlaen i’w gweld nhw’n cael mwy o lwyddiant.
Sut brofiad yw cael bod yn aelod o dîm hyfforddi mor gryf?
Mae ’na wahanol dull o wneud petha’. Mae’r hyfforddwyr i gyd yn brofiadol ac mae ’na gymysgedd arbennig iawn yma. Mae Stuart Lancaster yn amlwg efo cefndir gwahanol ac mae o wedi dysgu lot o wahanol brofiadau mae o wedi’u cael. A’r un peth efo Felipe Contepomi sydd efo’r ymosod a’r olwyr. Ond i fod yn deg efo Leo Cullen wedyn, fo sy’n ista ar ben y cwbwl ac mae ei wybodaeth o o’r dalent ifanc sy’n dod trwyddo a’r cysylltiad a sut mae pawb yn uniaeth efo Leo Cullen fel figurehead i Leinster, mae o’n chwarae’r rhan yna’n arbennig o dda o ran cadw’r datblygiad o’r tu fewn, y dalent ifanc a gwneud siŵr bo nhw’n cael y cyfle. Mae hynna’n cael ei adlewyrchu yn y garfan bresennol, ddim yn unig efo’r tîm cenedlaethol ond y tîm dan 20 hefyd. Mae ’na 19 chwaraewr wedi cael eu henwi yn y garfan genedlaethol ac mae ’na 18 wedi cael eu henwi yn y garfan dan 20. Mae hwnna’n siarad cyfrolau, a deud y gwir, ac mae’n dda i fi gael dod i mewn a jest gweld sut mae pethau’n gweithio rhwng yr ochr yma lle mae’r chwaraewyr ifainc yn cael cyfle i ddatblygu ac i dyfu a chymysgu hynny hefo gwneud yn siŵr fod y tîm cynta’n cael canlyniadau. Ar hyn o bryd, mae o’n llwyddo i wneud y ddau. Dwi’n teimlo’n freintiedig iawn i gael y cyfle i ddod i mewn i rywle fel Leinster a dysgu o’r profiad.
… ac mae ’na ambell chwaraewr da hefyd….
Oes, efo’r holl brofiad maen nhw wedi’i gael efo’r tîm cenedlaethol ac efo’r Llewod hefyd. Mae hynna’n rywbeth arall sy’n braf iawn i fi fedru gweld pethau o’u hochr nhw a’u barn nhw ar wahanol agweddau o’r gêm neu unigolion. Mae hwnna wedi bod yn ddiddorol iawn hefyd. Felly mae o wedi bod yn agoriad llygad i fi mewn sawl agwedd, a deud y gwir.
Oes mae ’na fwlch yna ond ’dan ni’n ymwybodol bo ni wedi colli lot o’r chwaraewyr yn ystod y cyfnod yma, felly mae o’n mynd i fod yn gyfnod caled i ni gadw fynd. Mae ’na grŵp o chwaraewyr ’dan ni’n cael ambell un yn ôl o’r tîm cenedlaethol ond i golli’r nifer yna ’dan ni wedi gwneud, mae hwnna’n mynd i fod yn anodd. Mae o fyny i ni fel hyfforddwyr i wneud yn siŵr bo ni’n paratoi’r chwaraewyr ifainc yma ar gyfer y sialens. Mae ’na sawl gêm, ’dan ni’n chwarae’r Cheethas gynta’, wedyn ’dan ni i ffwrdd yn y Gweilch ac wedyn Glasgow, wedyn dwy gêm yn erbyn y Cheetahs a’r Kings i ffwrdd yn Ne Affrica. Mae hwnna’n mynd i roi tipyn o her i ni fel carfan ar hyn o bryd heb y chwaraewyr mwya’ profiadol. Felly fel hyfforddwyr, mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bo ni’n paratoi cystal â gallwn ni. ’Dan ni’n edrych ymlaen at weld y rhai ifainc yma sy’ tu ôl y llenni, fel petai, am ran helaeth o’r tymor yn cael eu cyfle.
A fyddai’r gêm ranbarthol yng Nghymru’n gallu dysgu oddi wrth y gêm yn Iwerddon?
Dw i’n meddwl, heb os, fod ’na wersi i’w dysgu. Dwi ddim yn hollol gyfarwydd 100% efo’r system ond mae’n amlwg i fi bod rhyw dair neu bedair ysgol yn chwarae rhan fawr yn datblygu ieuenctid sy’n dod trwyddo ond ella bod hynna’n unigryw i fan hyn yn Nulyn. Dwi ddim yn gwybod o ran y niferoedd ond ’swn i’n licio meddwl bo ’na rywbeth i’w ddysgu ohewydd dwi’n bryderus iawn am sefyllfa rygbi ar lawr gwlad, fel petai, yng Nghymru efo cyn lleied o niferoedd sy’n chwarae’r gêm efo’r clybiau. Mae’r niferoedd yna’n dychryn rhywun weithiau, dwi’n teimlo. Efallai bod y cysylltiad yna wedi cael ei golli rhwng y gêm broffesiynol a’r gêm gymunedol. Dwi ddim yn siŵr sut mae pethau’n edrych ar hyn o bryd.
Sut groeso ydych chi’n ei gael fel Cymro yn Iwerddon?
Dwi’n cael croeso arbennig yma. Dwi’n mwynhau. Dwi ddim yn rhy bell. Mae trafaelio nôl a ’mlaen i Gymru’n ddigon hawdd ar yr awyren. Felly rhwng bob dim, dwi wedi medru mynd nôl yn ddigon aml, ac mae aelodau’r teulu wedi dod draw yma hefyd. Ar hyn o bryd, mae pethau’n mynd yn dda ar y cae ac i ffwrdd o’r cae. Gobeithio gall hynna barhau.
Ydych chi’n clywed rhywfaint o Wyddeleg yno?
Dim ond un neu ddau dwi wedi dod ar draws sy’n rhugl yn yr iaith felly dwi ddim wedi dod draw a chael profiad o wrando ar rywun yn siarad yr iaith eto. Do’n i ddim yn siŵr be’ i’w ddisgwyl. Yn bendant, dwi ddim yn medru gweld unrhyw fath o gysylltiad rhwng yr iaith Gymraeg a’r iaith Wyddeleg yma. Dwi ddim yn medru gweld unrhyw fath o gyswllt o gwbl i fedru gwneud cymhariaeth. O’n i’n disgwyl faswn i’n medru darllen ambell i enw sydd wedi cael eu cyfieithu ar yr arwyddion ond mae’n anodd iawn.
Rydych chi wedi gweithio â’r ddau faswr Dan Biggar a chapten Iwerddon, Jonny Sexton. Beth allwn ni ei ddisgwyl wrth iddyn nhw herio’i gilydd heddiw?
Mae’r ddau chwaraewr yn reit brofiadol ac mae’r ddau yn medru rheoli pethau’n eitha’ da i’w timau ac mae’r ddau yn hynod o gystadleuol. Does dim byd o’i le ar hynna. Bydd o’n ddiddorol gweld sut fydd y gêm. Maen nhw’n dweud bod y tywydd am chwarae rhan, yn anffodus, ac maen nhw’n gaddo gwynt a glaw. Gawn ni weld pwy sy’n gallu rheoli pethau gorau.