Rhodri Glyn Thomas AC
Mae’r cytundeb newydd rhwng S4C a’r BBC yn gyfle i gael “gwaed newydd” i mewn i S4C, yn ôl un Aelod Cynulliad.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas bod y cytundeb, sydd yn gosod seiliau cyllidebol a llywodraethol S4C hyd at 2017, yn gyfle i symud ymlaen o’r ansicrwydd sydd wedi llethu S4C yn ddiweddar.

“Mae’r cytundeb yn gosod sail ac yn cynnig gobaith i ddyfodol y sianel,” meddai’r cyn-weinidog diwylliant.

“Mae’n symud y sianel ymlaen o sefyllfa o ansicrwydd mawr i le allwn ni gynllunio i’r dyfodol.”

Mewn datganiad ar y cyd rhwng S4C a’r BBC, dywedodd y ddau gorff fod y cytundeb yn “cloi’r trafodaethau rhwng S4C, Ymddiriedolaeth y BBC, a Llywodraeth y DU, wedi setliad ffi drwydded y BBC llynedd pan gytunwyd i sefydlu partneriaeth newydd a threfniadau cyllido i S4C.”

Newid yn Awdurdod S4C

Mae’r cyhoeddiad heddiw rhwng y BBC ac S4C yn gyfle i greu Awdurdod newydd i’r sianel, yn ôl Rhodri Glyn Thomas.

“Mae’n bryd tynnu llinell dan y gorffennol,” meddai.

“Mae angen sefydlu awdurdod newydd i S4C, er mwyn iddyn nhw gael edrych ymlaen yn hytrach nag edrych yn ôl.”

Mae’r cytundeb newydd yn golygu y bydd aelodau o’r BBC nawr yn ymuno ag Awdurdod S4C – datblygiad a oedd bron yn anochel erbyn hyn, yn ôl Rhodri Glyn Thomas.

“Roedd hynny’n hir-ddisgwyliedig,” meddai, “mae’n bartneriaeth wedi’r cyfan.”

Mae’n debyg y bydd cynrychiolydd Cymru ar fwrdd Ymddiriedolaeth y BBC, Elan Closs Stephens, nawr yn ymuno ag Awdurdod S4C.

Ewyllys da

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, bod y trafodaethau wedi arwain at “gytundeb call a chytbwys sy’n parchu rôl y ddau ddarlledwr, ac a fydd yn golygu y gallwn ni gyd symud ymlaen wedi blwyddyn anodd dros ben.”

Yn ôl Rhodri Talfan Davies, bydd y cytundeb yn golygu y gall y diwydiant “ddechrau ar bennod newydd yn y berthynas rhwng BBC Cymru Wales ac S4C.”

Mae’r cytundeb newydd yn golygu y bydd mwy o rannu gwaith gweinyddol a chefnogol rhwng y BBC ac S4C o hyn allan.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas wrth Golwg 360 y byddai cydweithrediad da rhwng y ddwy ochr yn bwysig iawn yn y trefniadau newydd.

“Dwi yn meddwl fod parch gan y BBC at S4C fel sefydliad, ac mae llwyddiant hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar yr agwedd rhwng y partneriaid. Mae ewyllys da yn hanfodol.”

Dywedodd hefyd fod y cyhoeddiad ar y cyd heddiw yn dystiolaeth fod “S4C wedi dangos ymddiriedaeth yn Ymddiriedolaeth y BBC, a dwi’n gobeithio y bydd yr un peth yn wir o ran y BBC hefyd.”