“Mae’n amlwg ry’n ni fel cenedl yn perfformio’n well na phob disgwyl ac mae’n amhosib imi deimlo yn fwy balch”
Dyna ddywedodd y seren Hollywood o Gymru, Matthew Rhys, wrth gyhoeddi’r enwebiadau Cymreig ar gyfer gwobrau Into Film.
Bob blwyddyn mae’r gwobrau yn cael eu rhoi i bobol ifanc sydd yn creu ac adolygu ffilmiau (yn ogystal ag athrawon) ac eleni mae pum Cymro yn deilwng – y nifer uchaf erioed.
Ymhlith y rheiny o Gymru a fydd yn troedio’r carped coch mae yna bobol ifanc o Abertawe, Gwynedd a Phowys.
“Diwylliant cryf” Cymru
“Rydym yn genedl fach o dair miliwn o bobl – mae yna ddinasoedd sy’n fwy na hynny,” meddai Matthew Rhys wrth siarad â grŵp o ddisgyblion o Ysgol Olchfa, Abertawe.
“Efallai ein diwylliant cryf o adrodd straeon sy’n mynd rhywfaint o’r ffordd i egluro pam ein bod ni, y Cymry, yn gwneud cystal yn ystod y tymor gwobrau.”
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal eleni ar Fawrth 18 yn Sgwâr Caerlŷr, Llundain.
Yr enwebiadau
- Yasmin John, Ysgol Hollies – Athro’r Flwyddyn
- Tim Dadds, Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw -Athro’r Flwyddyn
- Eden ___, Aberhonddu, “I’m the One” – Ffilm Orau, 12-15 oed
- Cai ___, Ysgol Olchfa, Abertawe – Adolygydd y Flwyddyn
- Hedydd __, Dyffryn Nantlle – “Ones to Watch”
Dyw Into Film ddim wedi datgelu cyfenwau’r bobol ifanc am resymau diogelwch.
Dyma fideo o gyhoeddiad Matthew Rhys:
Today, actor and Into Film Ambassador, Matthew Rhys helped us share some good news – the names of the Welsh nominees in this year’s Into Film Awards!
What a talented bunch of teachers & young people from across Wales (Swansea, Gwynedd, Powys & Cardiff)https://t.co/oeEhlBQYKK pic.twitter.com/VRpJKfg1dK— Into Film Cymru (@intofilm_cymru) January 30, 2020