Mae Cyfeillion y Ddaear wedi croesawu’r newyddion fod cwmni o’r Unol Daleithiau wedi penderfynu na fyddan nhw’n bwrw ymlaen â’u cais cynllunio i adeiladu llosgydd gwastraff enfawr ger Merthyr Tudful.

Daeth y cyhoeddiad heddiw  fod cwmni ynni Covanta wedi tynnu eu cais cynllunio yn ôl ar gyfer y llosgydd gwastraff gwerth £400miliwn.  Fe fyddai’r gwaith wedi creu ynni o wastraff nad oedd modd ei ailgylchu.

“Rydyn ni wrth ein boddau,” meddai llefarydd ar ran Cyfeillion y Ddaear wrth Golwg 360. “Mae’n fuddugoliaeth i’r amgylchedd lleol ac i gymunedau’r cymoedd sydd wedi ymgyrchu’n galed iawn yn erbyn y datblygiad.”

Roedd Covanta wedi bod yn gweithio ar y cynllun ers bron i ddwy flynedd, ac yn ceisio cael caniatad i losgi gwastraff ar faes Brig-y-Cwm, ar dir rhwng Merthyr Tudful a Chwm Rhymni.

“Roedd cymaint o bryderon am y safle a’i faint,” meddai’r llefarydd, “yn ogystal â phryderon am y dechnoleg oedd yn cael ei ddefnyddio er mwyn gwaredu’r gwastraff.”

Un o’r bobol leol sy’n croesawu’r newyddion yw cynghorydd lleol y Democratiaid Rhyddfrydol, Bob Griffin.

“Mae tîm y Democratiaid Rhyddfrydol ym Merthyr wedi ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn y cynlluniau ers y diwrnod cyntaf iddyn nhw gael eu cyhoeddi,” meddai.

Yn ôl y cynghorydd, roedd y cynlluniau “yn mynd yn erbyn nifer o bolisiau Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd. Nid yn unig oedd y cynlluniau yn fwy na’r maint oedd yn cael ei dderbyn, ond byddai maint y cynllun wedi golygu y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn un llosgydd a fyddai’n gorfod delio gyda’r gwastraff ar draws Cymru gyfan, gan olygu bod gwastraff yn cael ei symud o bob rhan o’r wlad i’r llosgydd.”

‘Datrys problemau tref difreintiedig’

Mae Covanta bellach wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod nhw wedi gobeithio “darparu ateb cost isel, carbon isel, ac effeithlon iawn” i’r holl wastraff yng Nghymru.

“Ar ôl chwilio’n hir, roedden ni eisiau rhoi ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ym Merthyr Tudful, sydd yn un o’r trefi mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddai’r dref wedi cael ei drawsnewid gan y lefel yma o fuddsoddiad.

“Ond fe benderfynodd awdurdodau lleol fabwysiadu agwedd tameidiog (yn hytrach nag un cenedlaethol) tuag at ddelio â gwastraff. Rydyn ni felly wedi penderfynu dod â’r broses gynllunio i ben, a chanolbwyntio ar ein prosiectau mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig,” meddai’r cwmni.