Mae Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau a allai haneru nifer y diffoddwyr tân yn Llanelli.
Pleidleisiodd yr Awdurdod o blaid derbyn argymhellion y Cynllun Gweithredu Blynyddol yn eu cyfarfod heddiw, ond gydag un newid – y byddai’n rhaid ymgynghori â staff ac undebau cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Mae llawer o bobol yr ardal yn poeni y bydd y newidiadau hyn, sy’n cynnwys creu system mwy “effeithlon” o wasanaeth tân yn Llanelli ymhlith nifer o argymhellion eraill, yn golygu y gallai’r 28 dyn tân sy’n gweithio yng ngorsaf Llanelli ar hyn o bryd gael eu torri i dim ond 13.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod wrth Golwg 360 mai amcan yr adolygiad oedd i greu gwasanaeth oedd yn “adlewyrchu proffil y gymuned leol,” yn hytrach na chreu toriadau diangen.
“Gofynnwyd i’r Awdurdod bleidleisio ar y Cynllun Gweithredu Blynyddol, ac fe’i derbyniwyd, gydag un neu ddau newid.”
Roedd bron i 30 o bobol sydd ynghlwm ag ymgyrch Llanelli yn Erbyn y Toriadau yn gwylio’r cyfarfod o’r oriel gyhoeddus yn swyddfeydd Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw, ac fe fu protestio y tu allan i Swyddfeydd y Cyngor.
Dywedodd Aelod Seneddol Llanelli, Nia Griffith, wrth Golwg 360 ei bod hi’n bwysig fod yr ymgyrch yn parhau i ofyn cwestiynau.
“Mae’r ymgyrch yn erbyn y newid wedi bod yn beth da iawn, heb hynny, mae gen i ofn ofnadwy y byddai’r Awdurdod wedi derbyn y newidiadau heddiw heb hyd yn oed cwestiynu’r angen am drafod ag undebau a staff.”
Y cam nesaf, meddai, yn sgil y penderfyniad i ymgynghori, yw trefnu cyfarfod rhwng prif swyddogion y gorsafoedd a phennaeth y gwasanaeth tân er mwyn trafod y newidiadau.
“Bydd nifer o gynrychiolwyr yn mynd i fyny i’r cyfarfod, a bydd hynny’n ei gwneud hi’n anoddach i’r staff gael ei gorfodi i dderbyn newidiadau,” meddai Nia Griffith AS.
“Mae’n gwneud yr holl beth yn llawer mwy agored.”