Llys Ynadon Prestatyn
Cafodd  dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth eu cadw yn y ddalfa ar ôl  mynd gerbron llys ynadon Prestatyn heddiw.

Mae disgwyl i’r ddau ddyn, sy’n dod o’r Rhyl, ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon yfory. Mae’r ddau wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i yrrwr tŷ bwyta gael ei ladd mewn pentref yn Sir Ddinbych nos Fawrth ddiwethaf.

Bu farw Gabor Sarkozi, 38 oed, a oedd yn dod o Hwngari, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i’w ben ym mhentref Galltmelyd ger Prestatyn.

Roedd yntau hefyd yn byw yn y Rhyl, ac yn gweithio fel gyrrwr i’r bwyty Chineaidd Happy Garden yng Ngalltmelyd.

Mae Heddlu’r Gogledd  wedi diolch i’r cyhoedd am eu help yn ystod yr ymchwiliad ac mae  nhw’n awyddus iawn i glywed gan yrrwr car Mini lliw golau â tho du oedd yn cael ei yrru ar hyd Ffordd Talargoch, Galltmelyd rhwng 10.40pm a 11pm  nos Fawrth, 18 Hydref. Maen nhw’n credu fod gan y gyrrwr a’r teithwyr yn y car wybodaeth hanfodol mewn perthynas â’r ymchwiliad i’r llofruddiaeth.

Mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 (os yng Nghymru) neu ar 0845 607 1001 (llinell Gymraeg) neu 0845 607 1002 (llinell Saesneg). Gallwch hefyd ffonio Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.