Mae Cyngor Sir Benfro yn rhybuddio y gall llifogydd effeithio nifer o ardaloedd ar draws y sir heddiw.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn disgwyl rhwng 50mm a 100mm o law yn y sir yn ystod y dydd heddiw. Fe all achosi llifogydd mewn nifer o lefydd gan olygu bod pobol yn gorfod gadael eu cartrefi. Fe all hefyd gael effaith ar y ffyrdd a chyflenwadau nwy, trydan a dŵr.

Dywedodd y Cynghorydd Ken Rowlands a dylai pobl fod yn wyliadwrus a chymryd gofal I ddiogelu eu hunain a dilyn cyngor y gwasanaethau brys.

Mae’n rhybuddio pobl i beidio â cherdded neu yrru drwy’r dŵr a pheidio â chaniatau i’w plant chwarae yn y dŵr. Mae hefyd yn cynghori pobol I olchi eu dwylo os ydyn nhw’n cyffwrdd y dŵr gan y gallai fod yn lygredig.

Mae’n bosib cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw rybudd o lifogydd o wefan Asiantaeth yr Amgylchedd neu eu llinell ffôn 0845 988 11 88.