Roedd Gary Speed yno
Mae’r triawd o Gymru sy’n cystadlu ar Strictly Come Dancing eleni yn dal i fod yn y ras i gipio’r wobr fawr – y bêl sy’n pelydru!

Mi gafodd Alex Jones, Russell Grant a Robbie Savage eu harbed gan bleidlais y beirniaid a’r gwylwyr gartref, ac mi fyddan nhw’n ôl yr wythnos nesaf i arddangos eu doniau ar lawr y ddawns.

Doedd Alex, sy’n cyflwyno’r One Show ar y BBC, ddim yn orhyderus yn dawnsio’r rymba yr wythnos yma, ac fe gafodd hi farc isel o 4 gan Craig Revel Horwood. Roedd pawb wedi gwirioni ar jeif y cyn peldroediwr Robbie Savage, ac fe gododd y gynulleidfa ar eu traed i gymeradwyo Russell Grant ar ddiwedd ei berfformiad yntau. Mi dderbyniodd yntau farc o 7 gan y beirniad Bruno Tonioli.

Y dynwaredwr Rory Bremner sydd wedi gadael y penwythnos hwn, ac roedd yn amlwg yn teimlo’n drist ar ôl clywed canlyniad y bleidlais heno gan ei fod yn mwynhau’r profiad o fod yn rhan o Strictly yn fawr iawn.

Roedd rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Gary Speed, yn y gynulleidfa. A oedd  yno i gefnogi Robbie Savage, neu i chwilio am ffyrdd i ysbrydoli chwaraewyr Cymru i ddawnsio o amgylch y cae, a’u gwrthwynebwyr, yn eu gêm nesaf?