Mae tân ar Fynydd y Lan ger Abercarn yn ne Cymru wedi lledu, diolch i’r gwyntoedd newidiol.
Mae gwasanaethau argyfwng yr ardal wedi derbyn llu o alwadau gan bobl yn poeni am y mwg sydd yn amlwg drwy’r dyffryn.
Mae’r tân yn agos i Wattsville ond dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân nad oedd unrhyw un mewn perygl. Mae pedwar criw allan yn ymdrin â’r tan.