Mae dynes 32 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan gar ar Ddydd Gŵyl San Steffan.
Fe ddigwyddodd ar ffordd A467 yn ardal Brynmawr am oddeutu 9.10yb.
Dydy’r ddynes ddim wedi cael ei henwi hyd yn hyn, ond mae ei theulu wedi cael gwybod.
Bu’n rhaid cau’r ffordd am bum awr er mwyn i’r heddlu gynnal ymchwiliad.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.