Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi prosiect newydd gwerth £1.3m heddiw (dydd Llun, Rhafyr 23) i helpu pobl sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, ac sy’n wynebu rhwystrau oherwydd salwch meddwl.
Bydd Dysgu i Dyfu yn gweithio gyda 300 o oedolion sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, yn ardaloedd Casnewydd, Sir Fynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Y nod, meddai Llywodraeth Cymru, yw helpu pobl i feithrin sgiliau newydd i’w paratoi ar gyfer yr amgylchedd gwaith. Fe fydd y sgiliau yn gysylltiedig â gwaith drwy weithgareddau ymarferol sy’n ymwneud â garddwriaeth, gwaith coed, TGCh a chrefftau.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ddysgu seiliedig ar waith a fydd yn arwain at achredu sgiliau sy’n berthnasol i swyddi.
“Meithrin sgiliau”
Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd ac mae’n cael £700,000 o gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Brexit ac sy’n gyfrifol am gyllid yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru: “Mae hi’n anodd i bobl y mae salwch meddwl hirdymor wedi effeithio arnyn nhw gadw swyddi oherwydd diffyg sgiliau bywyd a gwaith, a diffyg hyder.
“Bydd Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i feithrin sgiliau gwaith go iawn er mwyn iddyn nhw allu cael gwaith ystyrlon a’i gadw. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i fagu hyder, hunan-barch a chymhelliant, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i fynd yn ôl i’r gwaith.
“Mae llawer o fanteision yn deillio o helpu’r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur: grymuso unigolion, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, herio rhagdybiaethau cymdeithasol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, a mynd i’r afael â thlodi a diweithdra mewn cymunedau difreintiedig.”
“Goresgyn rhwystrau”
Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan yr elusen iechyd meddwl, Growing Space.
Dywedodd Bill Upham o Growing Space bod yr elusen wedi “ymrwymo’n llwyr i helpu unigolion sydd wrthi’n gwella, yn ogystal â’u teuluoedd. Bydd y prosiect Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth iddynt ymuno â’r gymdeithas eto.”