Fe fydd hawl gan bobol ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn Etholiad Cyffredinol Cymru yn 2021, fel rhan o’r newidiadau mwyaf i’r drefn ddemocrataidd yng Nghymru ers hanner canrif.

Mae Aelodau’r Cynulliad, heddiw (Tachwedd 27), wedi pleidleisio o blaid deddfwriaeth a fydd yn gweithredu’r estyniad mwyaf i’r etholfraint yng Nghymru ers 1969.

Mae’r deddfwriaeth yn cynnwys diwygiadau eang sy’n golygu newidiadau i’r rheolau ynghylch pwy sy’n cael pleidleisio a phwy sy’n gallu sefyll fel ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad

Mae’n golygu y bydd gan bobol ifanc 16 a 17 oed – am y tro cyntaf – ddylanwad wrth ddewis yr Aelodau a fydd yn eu cynrychioli yn y Cynulliad.

Dywed Llywydd y Cynulliad, Elin Jones: “Roedd hon yn bleidlais i rymuso ein pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed – cam hir ddisgwyliedig i lawer.”

“Rwy’n falch bod Cymru wedi cymryd y cam pwysig i gryfhau sail ein democratiaeth seneddol, sef rhywbeth y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn diolch i ni amdano.”