Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad Jordan Moray o Aberdâr dri mis yn ôl yn chwilio am awdur llythyr.

Fe wnaeth Kevin Humphreys ysgrifennu llythyr at yr heddlu’n ddiweddar yn cynnig gwybodaeth a allai eu helpu gyda’r ymchwiliad.

Ond dydy’r heddlu ddim wedi gallu dod o hyd iddo hyd yn hyn.

Cefndir

Does neb wedi gweld Jordan Moray ers Gorffennaf 24, ac fe aeth ei deulu at yr heddlu ar Awst 2.

Roedd aelodau’r teulu wedi bod i’w fflat, oedd wedi cael ei adael ar agor, a chyfrifiadur ymlaen.

Roedd ei ffôn symudol hefyd yn y fflat.

Dywedodd ffrind ei fod wedi gweld Jordan Moray yn ardal Cwmbach ar Orffennaf 29.

Mae’r ymchwiliad yn un heriol i’r heddlu am fod Jordan Moray yn hoff iawn o fynd i gerdded yn yr awyr agored, ac fe fyddai’n galw am chwilio ardal eang o dir, hyd at Aberhonddu o bosib.

Mae lle i gredu ei fod e’n dueddol o gerdded hyd at 20 milltir y dydd, ac weithiau ar lonydd diarffordd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.