Mae BBC Radio Cymru wedi ymddiheuro ar ôl iddyn nhw ddweud yn anghywir y bore yma fod Tinopolis wedi colli cytundeb rhaglenni cylchgrawn S4C.

Maen nhw wedi rhoi’r bai am ffynonellau o fewn y cwmni am y camgymeriad a ddaeth awr neu ddwy cyn i’r sianel gyhoeddi bod y cwmni o Lanelli yn cadw’r gwaith.

Dywedodd bod y BBC bellach wedi cytuno i beidio ag ail-adrodd yr honiad mai ffynhonell o fewn y cwmni oedd yn gyfrifol am y stori.

Yn ôl Cadeirydd Gweithredol Tinopolis, Ron Jones, roedd y camarwain yn siom mawr iddo ef ac i staff y cwmni.

‘Sioc’

“Roedd hi’n sioc a dweud y gwir. Doedd gen i ddim syniad fod y fath beth wedi cael ei gyhoeddi, ac r’on i ar ddeall bod yr holl beth i fod yn gyfrinachol nes y cyhoeddiad,” meddai Ron Jones wrth Golwg 360.

“Mae’n dristwch mawr fod staff wedi cael clywed am y peth adre ar y newyddion yn gyntaf,” meddai. “Mae e wedi gwneud eu bore nhw’n ddigon diflas – ac mae’n siwr bod yr un peth yn wir i bobol yn Avanti erbyn hyn hefyd.

“Does neb moyn i straeon fel hyn gael eu torri yn y modd yma,” meddai, “yn enwedig pan maen nhw’n ymwneud â bywoliaeth pobol.”

‘Sibrydion’

Fe gyhoeddodd BBC Radio Cymru ar ddiwedd rhaglen Y Post Cyntaf y bore yma fod disgwyl i gwmni teledu Avanti glywed mai nhw oedd wedi ennill y cytundeb i wneud y rhaglenni sy’n dod yn lle Wedi 3 a Wedi 7. Ond am 10, fe dderbyniodd Tinopolis neges gan S4C yn dweud mai nhw oedd y cwmni llwyddiannus.

Yn ôl Ron Jones, fe ddechreuodd y sibrydion bore ddoe wedi i nifer o bobol o fewn y diwydiant dderbyn e-byst a negeseuon tecst o gyfeiriadau dienw yn dweud bod Tinopolis wedi colli’r cytundeb.

“Mae’r math yma o straeon yn trin pobol mewn ffordd angharedig iawn,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Cafodd yr awgrym bod Tinopolis wedi colli’r cytundeb darlledu ei wneud mewn un bwletin BBC Radio Cymru yn unig – am 8.30am.

“Yn dilyn hyn rydym wedi cywiro’r adroddiad ac wedi ymddiheuro ar yr awyr.”