Mae sylwadau mewn datganiad ar dudalen Facebook y blaid wleidyddol Gwlad Gwlad am y niqab, penwisg Foslemaidd, wedi ennyn ymateb chwyrn.
Mae’r datganiad yn cwestiynu penderfyniad Plaid Cymru i ddefnyddio Sahar al-Faifi, ymgyrchydd sydd bellach wedi’i hatal o’r blaid am sylwadau gwrth-Semitaidd yn y gorffennol – fel eu hwyneb cyhoeddus ar gyfer yr etholiad cyffredinol.
Yn y darllediad gwleidyddol, mae Sahar al-Faifi yn ei niqab, dilledyn sy’n golygu mai dim ond ei llygaid sy’n weladwy.
Wrth ymateb, roedd Sahar al-Faifi yn dweud ei bod hi’n difaru gwneud y sylwadau yn 2012 a 2014, sydd bellach wedi cael eu dileu.
Datganiad Gwlad Gwlad
Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywed Gwlad Gwlad ei bod yn “rhyfedd fod Plaid wedi penderfynu rhoi platfform i rywun sy’n mynnu gwisgo niqba [sic] mewn bywyd cyhoeddus”.
“Mae darllen wynebau wedi bod yn rhan hanfodol o fywyd dynol erioed,” meddai’r datganiad wedyn.
“Mae a wnelo ag ymddiried, bod yn agored a thryloywder ymysg pobol.
“Llwyr hanfodol yn y gorffennol pell ond hyd yn oed heddiw, yn bwysig ar gyfer ymgysylltu a chysylltu mewn bywyd cyfoes.
“Byddech yn dychmygu ei fod yn bwysicach fyth yn y cylch cyhoeddus, lle mae’n hanfodol i bleidleiswyr allu ‘darllen’ yn llawn unigolion sydd naill ai’n ceisio grym drostyn nhw neu’n dadlau dros bleidiau sydd yn ceisio grym gwleidyddol.
“Mae’r embaras yma [“loss of face”] yn dangos pa mor aml mae cywirdeb gwleidyddol yn mynd yn groes i’r graen o safbwynt synnwyr cyffredin a lles y gymdeithas.”
Sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol
Mae un neges yn ymateb i’r datganiad ar Facebook yn galw am “beidio â thrafod mewn modd negyddol”.
“Rwy’n deall pam fod dynes yn dewis gwisgo niqab, yn bennaf am resymau diwylliannol a chrefyddol,” meddai Richard A Glaves.
“Ddylem ni ddim trafod mewn modd negyddol neu fe fyddwn ni’n syrthio a chael ein gweld yn asgell dde eithafol a ddim yn gynhwysfawr i holl bobol Cymru waeth bynnag am grefydd, diwylliant, rhyw, rhywedd a diwylliant a hunaniaeth.
“Mae Sahar yn dweud ei bod hi’n barod i gael ei dwyn i gyfrif am ei thrydariadau anffodus ond fe wnaeth Plaid y peth cywir wrth ei hatal hi.
“Fodd bynnag, oherwydd fod pobol wedi bod yn wrth-Semitig yn y gorffennol, dydy hynny ddim yn golygu na all pobol gael eu haddysgu a deall y gweithredoedd a newid eu safbwyntiau.
“Does dim lle i wrth-Semitiaeth ac Islamoffobia mewn grwpiau na phleidiau gwleidyddol.”
Ymgeisydd Gwlad Gwlad dan y lach
Mewn neges arall, dywed Rob Mash y “gallai trydar deunydd anaddas am ffydd grefyddol arall fod yn un o’i gwendidau”, ond mae wedyn yn crybwyll “ymgeisydd arall yn ail-drydar trydariad yn galw’r niqab yn ddilledyn afiach”.
Roedd neges gan Joanne Davies yn dweud y “dylid gwahardd y dilledyn afiach hwn fel sydd wedi digwydd yn yr Aifft, Iran, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Ffrainc”.
Mae golwg360 wedi gofyn i Gwlad Gwlad am ymateb.