Mae Clwb Pêl-droed Caerfyrddin ymhlith y cyntaf i dalu teyrnged i’r cyn-athro ysgol uwchradd a fu’n ysgrifennydd ffyddlon am “gyfnod hir”.
Fe fu Gareth ‘GO’ Jones hefyyd yn gynghorydd yng Nghaerfyrddin, tra hefyd yn cadw cysylltiad agos ag ardal ei deulu yn Llandyfyriog.
“Roedd ei ymrwymiad i’r clwb, ynghyd â’i help a’i gwrteisi yn esiampl i ni i gyd,” meddai Clwb Pêl-droed Caerfyrddin mewn neges sydd wedi denu dros gant o ymatebion ac wedi cael ei rhannu’n helaeth ar wefan gymdeithasol Facebook.
“Wnaeth e erioed golli ei hiwmor hyd yn oed yn ystod ei afiechyd anodd a phoenus, a bu farw yn yr un modd ag y buodd fyw – trwy helpu eraill.”
“It is with sadness that we inform you of the death of Gareth Jones. As you know Gareth had been our long serving…
Posted by Carmarthen Town AFC on Tuesday, 12 November 2019
Am golled. Wedi nabod G.O. ym maes pêldroed, ac fel un o'r cynghorwyr gorau yn Sir Gâr ar gyfnod pan drodd y lli. G.O….
Posted by Ffred Ffransis on Tuesday, 12 November 2019