llMae rhagor o bwysau ar ymgeisydd seneddol y Ceidwadwyr ym Mhenrhyn Gŵyr i gamu o’r neilltu, ar ôl dweud y dylid “difa” pobol sy’n derbyn budd-daliadau.
Roedd hi’n ymateb yn 2014 i sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol am y rhaglen deledu Benefits Streets.
Dywedodd hi bod y bobol yn y rhaglen yn gwneud i’w “gwaed ferwi”.
Mae hi wedi ymddiheuro ar ôl i’r sylwadau ddod i’r amlwg, ond mae Llafur yn dweud y dylid ei gwahardd hi ynghylch ei sylwadau “hollol ffiaidd”, sydd bellach wedi cael eu dileu ond sydd wedi’u hadrodd gan y wasg.
Ac mae ymgeiswyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth hefyd yn dweud y dylid ei thynnu hi allan o’r ras.
‘Haeddu gwell’
“Mae pobol fregus yng Ngŵyr yn haeddu cymaint gwell nag aelod seneddol â safbwyntiau mor atgas â’r rhain,” meddai Sam Bennett, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Tra ei bod hi wedi cael ei gorfodi i ymddiheuro, efallai, a yw hi wir wedi newid ei meddwl?
“Mae’r math yma o sylwadau’n dangos mai’r Torïaid o hyd yw’r blaid gas.
“Dylid dileu’r ymgeisydd Ceidwadol.
“Diffyg awdurdod moesol Boris Johnson, yn ddiau, yw’r rheswm am ddiffyg gweithgarwch hyd yn hyn.”
Gwahoddiad i orymdeithio
Yn y cyfamser, mae John Davies, ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, wedi gwahodd Francesca O’Brien i orymdeithio o Abertawe i Gaerdydd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu’r Ddeddf Fegera.
“Dechreuais i’r rhediad cawl rheolaidd i Blaid Cymru yn Abertawe rai blynyddoedd yn ôl, a dw i’n meddwl y byddai’n addysg i Ms O’Brien gael dod gyda fi ar nos Sul i weld sut mae pobol go iawn wedi cael eu heffeithio gan doriadau’r Torïaid i gartrefi cyhoeddus.”