Mae Nigel Farage, arweinydd Plaid Brexit, yn addo “brifo” Llafur yng Nghymru “yn y modd mwyaf rhyfeddol”.

Mae’r blaid yn targedu seddau Llafur yng Nghymru ar ôl i’w harweinydd gael ei gyhuddo gan y Ceidwadwyr o beryglu Brexit drwy ganolbwyntio ar yr etholiad ar Ragfyr 12.

Mae disgwyl i’r blaid gyflwyno ymgeiswyr mewn mwy na 600 o etholaethau ond mae Jacob Rees-Mogg wedi rhybuddio Nigel Farage y gallai golli’n drwm pe bai’n mynd yn ei flaen.

Ond mae Nigel Farage yn dweud mai ei “brif darged” yw etholaethau lle mae Llafur wedi “bradychu” pleidleiswyr ynghylch Brexit.

“Fe wnes i arwain UKIP i mewn i etholiad cyffredinol 2015, ac fe ges i’r un fath, yr un dadleuon, y llwyth Torïaidd yn bloeddio a gweiddi, ‘Peidiwch â mynd â’n pleidleisiau’,” meddai wrth raglen foreol ITV, Good Morning Britain.

“Fe gymerodd y bleidlais dros UKIP fwy o bleidleisiau oddi wrth Lafur nag y cymerodd oddi wrth y Ceidwadwyr, a fyddai [David] Cameron ddim wedi cael mwyafrif heb UKIP.

“Rydyn ni’n mynd i frifo’r Blaid Lafur yn y modd mwyaf rhyfeddol.

“Fe wnawn ni hynny yn ne Cymru, fe wnawn ni fe yng Nghanolbarth Lloegr, fe wnawn ni fe yng ngogledd Lloegr.

“Mae’r pleidleiswyr Llafur hynny wedi cael eu bradychu’n llwyr gan y Blaid Lafur.

“Nhw yw fy mhrif darged. Ces i’r pleidleisiau hynny yn 2015, ac fe wna i fe eto.”

Galw am ei ymddeoliad

Wrth ymateb i’w sylwadau, mae Jacob Rees-Mogg yn dweud ei bod yn bryd i Nigel Farage “ymddeol”.

“Dw i’n credu y byddai’n ddoeth pe bai’n cydnabod iddo ennill y frwydr,” meddai wrth orsaf radio LBC.

“Fe ddylai fod yn falch iawn o’i yrfa wleidyddol.

“Byddai’n drueni mawr pe bai’n parhau i frwydro ar ôl iddo gipio colled o geg buddugoliaeth.

“Rwy’n deall pam y byddai Nigel Farage eisiau parhau i ymgyrchu oherwydd mae e wedi bod yn ymgyrchu ers bron i 30 o flynyddoedd, ac mae’n rhaid ei bod yn anodd iddo ymddeol o’r maes, ond dyna ddylai ei wneud.”