Fe ddaeth cadarnhad mai ym mhentref Boduan yn Llŷn y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn 2021.
Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld ag ardal Llŷn ac Eifionydd ers 1987, pan gynhaliwyd y brifwyl ym Mhorthmadog.
“R’yn ni’n falch iawn o gyhoeddi lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2021,” meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses.
“Mae llawer o drafod a sôn wedi bod ar lawr gwlad ers amser, a gyda phopeth nawr mewn lle, braf yw cael rhannu’r newyddion mai Boduan, rhwng Nefyn a Phwllheli, fydd ein cartref ym mis Awst 2021.
“Mae’r gefnogaeth i gynnal yr Eisteddfod yn ardal Llŷn ac Eifionydd wedi bod yn arbennig, ac r’yn ni’n awyddus i ddenu trawsdoriad eang o bobol gyda phob math o ddiddordebau ac arbenigedd i fod yn rhan o’r tîm.
“Edrychwn ymlaen am ddeunaw mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch, a gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i’r cyfarfod cyhoeddus ym Mhwllheli.”
Cyfarfod cyhoeddus
Bydd cyfarfod cyhoeddus nos Fawrth, Tachwedd 12, yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli am 7yh.