Mae’r gwasanaethau brys yn delio gyda gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd rhwng y Felinheli a Bangor yng Ngwynedd y bore yma (dydd Gwener, Hydref 25).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4087 ac mae’r fford yn parhau ar gau.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynghori gyrwyr i osgoi’r ardal.