Mae Aelod Cynulliad o ogledd Cymru wedi gwneud cais er mwyn cyflwyno ddeddfau ar y modd y mae lanternau awyr Chineaidd yn cael eu defnyddio yng Nghymru, er mwyn eu hatal rhag niweidio’r amgylchfyd.
Yn ôl Antoinette Sandbach, mae’r lanternau awyr yn fygythiad i bobol, anifeiliaid ac eiddo, ac mae angen rheoli eu defnydd.
“Mae’r tanwydd sy’n llosgi yn gallu rhoi adeiladau busnes a chartrefi ar dan, ac mae’n peri risg i dir amaethyddol mewn tywydd sych hefyd,” meddai.
“Maen nhw hefyd yn fygythiad annerbyniol i les anifeiliaid fferm,” ychwanegodd Antoinette Sandbach, llefarydd amaeth y Blaid Geidwadol yng Nghymru.
“Mae gwartheg yn greaduriaid sy’n naturiol chwilfrydig ac maen nhw’n cael eu niweidio’n rhwydd drwy fwyta darnau metel o’r lanternau yma.
“Does neb eisiau lladd yr hwyl,” meddai, “ond mae gollwng y lanternau yma i’r awyr yn peri risg i bobol a chreaduriaid yn ogystal ag eiddo.”
Mae Antoinette Sandbach nawr wedi gwneud cais i gynnal pleidlais yn galw am reoli defnydd lanternau.
“Fy ngobaith yw medru cyflwyno deddfwriaeth fydd yn rheoli eu defnydd, ac felly yn diogelu aelodau’r cyhoedd a lles anifeiliaid fferm.”
Mae un cyngor yng Nghymru eisoes wedi pleidleisio o blaid lobïo’r Llywodraeth i wahardd lanternau awyr wedi i nifer o bobol yn y sir gael damweiniau o’u herwydd.
Yn ôl y Cynghorydd Dennis Hitchinson o Gyngor Sir y Fflint, fe wnaed “penderfyniad unfrydol ym mis Medi y byddai’r Cyngor yn ysgrifennu at Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan yn galw am wahardd y lanternau awyr.”
Dywedodd wrth Golwg 360 ei fod yn “falch iawn” o glywed fod Antoinette Sandbach wedi gwneud cais i’r Cynulliad er mwyn rheoli defnydd y lanternau awyr.
“Mae’n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw o bryderon pobol ar y mater,” meddai.